Gweithgareddau allgyrsiol

Golygfa o Central Park, Efrog Newydd - Person yn chwarae piano cyngerdd a phobl yn eistedd ar feinciau ac yn cerdded heibio

Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiadau bywiog a hirsefydlog sydd gennym â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, er enghraifft BBC Cymru Wales, S4C, Gŵyl Ffilmiau Tribeca, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, Bad Wolf Studios, Tinopolis, Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales.

Rydym hefyd yn Bartner Dysgu AVID ardystiedig sy'n golygu bod ein staff wedi eu hyfforddi i ddarparu cynnwys ardystiedig AVID.

Mae siaradwyr gwadd yn ymweld â ni'n rheolaidd i gynnal dosbarthiadau meistr gyda'r myfyrwyr - yn eu plith unigolion sydd wedi ennill Oscar neu BAFTA, sgriptwyr a dylunwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, gwneuthurwyr theatr, ffilm, ac artistiaid.

Ymhlith y tripiau diweddar bu ymweliad â Gŵyl Ffilmiau Tribeca, Gŵyl Ffilmiau Caeredin, Bad Wolf Studios, Gŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford, Gŵyl Ffilmiau Encounters a Stiwdio Tinopolis, Fierce Festival - Performance-Politics-Parties-Pop, Fast Forward - Gŵyl Ewropeaidd ar gyfer Cyfarwyddwyr Ifanc y Llwyfan a gynhelir gan Staatsschauspiel, Theatr y Wladwriaeth, Dresden.