Diwrnodau Agored a digwyddiadau eraill

Pobl yn eistedd ac yn cerdded drwy Gyntedd Adeilad Parry Williams

Diwrnodau Agored, Teithiau Campws a mwy

Dewch i un o'n Diwrnodau Agored neu ddigwyddiadau eraill i gael profiad go iawn o sut le ydy Prifysgol Aberystwyth, y campws a'r dre.

Os na allwch chi ddod yma, beth am ymuno â Diwrnod Agored Ar-lein i gael yr un profiad heb hyd yn oed adael eich cartref.

Byddai'n sicr yn werth i chi ymuno â ni i weld drosoch eich hun sut le yw'r adran a'r brifysgol drwy ddod i Ddiwrnod Agored yn Aberystwyth neu fynychu Diwrnod Ar-lein os na allwch chi ddod yma.

Drwy fynychu Diwrnod Agored, cewch y cyfle i:

  • wrando ar gyfres o gyflwyniadau ar bynciau mor amrywiol ag ysgoloriaethau a bwrsariaethau, llety, ffioedd a chyllid, a llawer mwy
  • canfod mwy am y gwahanol gyrsiau sydd ar gael drwy sgwrsio â'n staff academaidd
  • mynd ar daith o'r campws neu wylio taith rithwir a theithiau panoramig o'r neuaddau llety, er mwyn cael blas ar sut le yw'r campws a'r dre
  • canfod mwy drwy ofyn cwestiynau i'n myfyrwyr cyfredol ar y campws neu dros ein safle sgwrs sydyn.

Teithiau Campws

Taith gerdded o tua un awr yw'r taith campws. Bydd y person sy'n arwain y daith yn dangos ichi ble mae'r adran, rhai o gyfleusterau'r campws, a rhai o'r opsiynau llety. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod i adnabod lleoliad y Brifysgol a'r cyffiniau.

Cefnogi eich ymweliad

Yn dilyn eich ymweliad, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd Ffurflen Ad-daliad Costau Teithio'r Taith Campws. Byddwn yn anfon y ffurflen atoch ar ôl eich ymweliad.

Dewich i aros gyda ni yn Aber!

Mae llety ar gael rhwng mis Gorffennaf a mis Medi i'r rheiny sydd dros 18 oed, ac hefyd i bobl ifanc o dan 18 oed sy'n dod gydag oedolyn cyfrifol. Canfod mwy

Canfod mwy am ein Diwrnodau Agored a'n digwyddiadau eraill