Cynllun lleoliad ABERymlaen

Staff Prifysgol neu gyflogwr arall? Cliciwch am fwy o fanylion

Pwy all gymryd rhan?

Gallwch wneud cais am leoliadau ABERymlaen hyd at 31 Gorffennaf 2023 os na wnaethoch ddechrau ar leoliad ABERymlaen rhwng 1 Awst 2022 a 31 Mawrth 2023 ac:

  • os gwnaethoch chi raddio yn Haf 2022 gyda gradd israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, neu
  • os gwnaethoch chi raddio yn Haf 2022 gyda gradd israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth a dechrau rhaglen Feistr 1 flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Hydref 2022, neu
  • os ydych chi ar hyn o bryd wedi cofrestru gyda'r Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa, llwybr myfyrwyr neu lwybr Graddedigion

Sgroliwch i lawr i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynllun presennol a'r camau nesaf.

Ddim yn gymwys?

Mae ABERymlaen yn un o nifer o gyfleoedd profiad gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd ar gael. Os nad ydych yn gymwys i wneud cais i ABERymlaen, gwnewch apwyntiad i weld un o'n Hymgynghorwyr Gyrfaoedd a all eich helpu i adolygu eich sgiliau a'r profiad sydd gennych hyd yma ac archwilio lleoliadau eraill. E-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk neu gallwch drefnu apwyntiad trwy ein porth gyrfaoeddABER.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd dramor, cysylltwch hefyd â'r tîm Cyfleoedd Byd-eang, sy'n gallu rhoi gwybodaeth am y gwahanol opsiynau a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael ichi. Neu, os ydych chi'n chwilio am waith rhan-amser / achlysurol yn y Brifysgol, edrychwch ar gynllun GwaithAber a reolir gan adran Adnoddau Dynol y Brifysgol.

Noder: bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu hadolygu maes o law a bydd unrhyw ddiweddariadau ynglŷn â lleoliadau a gynigir rhwng mis Awst 2023 a mis Gorffennaf 2024 yn cael eu rhannu ar y dudalen we hon pan fyddant ar gael.

Diwyg y lleoliad

Gallwch ddewis ar naill ai Opsiwn 1 neu Opsiwn 2 isod (ond nid y ddau):

  • Opsiwn 1: lleoliad amser llawn, â thâl, am 4 wythnos yn un o adrannau Prifysgol Aberystwyth, rhwng y 3ydd a’r 28ain o Orffennaf 2023
  • Opsiwn 2: lleoliad hyblyg, â thâl, yn un o adrannau Prifysgol Aberystwyth neu gyda chyflogwr arall, rhwng Chwefror a Gorffennaf 2023, yn gweithio amser llawn neu ran-amser, yn unol â’ch anghenion chi ac anghenion y rhai sy’n darparu eich lleoliad

Ddiddordeb?

Llenwch ein ffurflen ar-lein fer hon er mwyn gofnodi eich diddordeb. Os ydych yn gymwys i wneud cais, byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth fanwl atoch am y cynllun.

Gwybodaeth i’r rhai sy’n darparu lleoliadau

Allech chi gynnig lleoliad, petai ABERymlaen yn ariannu’r cyflog neu’n rhoi cymhorthdal tuag atog? Neu, a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun yn gweithio?

Staff Prifysgol Aberystwyth

Cyflogwyr eraill