Sut i wneud dewis Cadarn ac Yswiriant
Rydych wedi cael gafael ar gwrs. Rydych wedi dewis eich rhestr fer o brifysgolion.
Rydych wedi gwneud cais i’ch dewis cyntaf (Cadarn) ac wrth gefn (Yswiriant).
Ar ôl aros, rydych wedi cael ymateb.
Beth dylech ei wneud nesaf?
Wel, gallech dderbyn 4 ateb posib:
- Cadarn Diamod: Gwarant eich bod wedi eich derbyn gan y Brifysgol
- Cadarn Amodol: Os byddwch yn bodloni’r gofynion, cewch eich derbyn gan y Brifysgol
- Cadarn Amodol ac Yswiriant Amodol: Eich dewisiadau cyntaf ac ail. Os bodlonir y gofynion, cewch eich derbyn gan eich dewis cyntaf o brifysgol. Fel arall, efallai byddwch yn gorfod bodloni gofynion eich ail ddewis o brifysgol er mwyn cael eich derbyn
- Cadarn Amodol ac Yswiriant Diamod: Eich dewisiadau cyntaf ac ail. Os bodlonir y gofynion, cewch eich derbyn gan eich dewis cyntaf o brifysgol. Fel arall, byddwch yn cael eich derbyn gan eich ail ddewis o brifysgol
Os ydych wedi derbyn cynnig Cadarn neu Yswiriant Diamod gallwch fewngofnodi i UCAS Track a chadarnhau eich lle yn y prifysgolion hynny – a’u derbyn yn Gadarn.
Ar gyfer Cynnig Cadarn neu Yswiriant Amodol, bydd yn rhaid i chi aros tan ganlyniadau eich arholiadau cyn mewngofnodi i UCAS Track am gadarnhad – a derbyn Yswiriant.
Dylech nodi y bydd yn rhaid ymateb i gynigion cyn y dyddiadau cau a nodir. Gallwch hefyd wrthod unrhyw gynigion a dderbyniwch a throsglwyddo i wasanaeth UCAS Extra neu drwy’r drefn Glirio yn hwyrach.
Mewngofnodwch i UCAS Track i gadarnhau statws eich cynnig neu mae pob croeso i chi gysylltu â’r Tîm Derbyn Israddedigion am gyngor neu’r camau nesaf.