Cais UCAS: Beth sy’n digwydd nesaf?

Myfyrwyr yn gwenu; myfyriwr yn gweithio ar liniadur

Felly rydych chi wedi ymgeisio ac yn aros am ymateb gan eich dewis o brifysgol.

Os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n digwydd nesaf, gadewch i ni esbonio i chi gyda’n canllaw cam wrth gam syml.

1. Byddwch yn amyneddgar: fe wnaiff UCAS gysylltu

Mae prifysgolion yn derbyn nifer fawr o geisiadau gan fyfyrwyr y DU, yr UE a rhyngwladol. Wrth ymgeisio, byddwch yn cael cyfeirnod UCAS personol sy’n unigryw i chi, a dylech ddyfynnu hwn ym mhob gohebiaeth gyda’r sefydliadau rydych chi wedi ymgeisio iddynt.

Bydd UCAS yn prosesu eich cais, a bydd yn anfon ebost i’ch croesawu gan gadarnhau eich manylion a’ch dewisiadau personol (fel arfer o fewn 14 diwrnod).

2. Tracio eich cais UCAS

Unwaith y bydd UCAS wedi darparu eich cyfeirnod personol, byddwch yn gallu cofrestru a mewngonodi i UCAS Hub. Pan fydd pob darparwr cwrs yn gwneud penderfyniad bydd UCAS yn gadael i chi wybod bod rhywbeth wedi newid yn eich cais, gan eich annog chi i fewngofnodi i UCAS Hub.

Os ydych chi’n cael cynnig gan un o’r cyrsiau/prifysgolion rydych chi wedi’u dewis, mewngofnodwch a darllenwch eich llythyr cynnig. Gallwch hefyd ddefnyddio y teclyn tracio i dderbyn neu wrthod cynigion (manylion am hyn isod) yn ogystal â newid manylion personol fel cyfeiriad, rhif ffôn ac ebost.

3. Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr

Bydd eich pum dewis yn / wedi eich hysbysu chi am y Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr fydd wedi’u trefnu. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried ailymweld â’r Brifysgol rydych chi wedi ymgeisio iddi, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi bod yno ar Ddiwrnod Agored. Bydd y Diwrnod Agored i Ymgeiswyr yn cynnig cyfle arall i chi weld yr adran, darlithwyr a myfyrwyr eraill o’r un anian. Ceir rhagor o wybodaeth am ddiwrnodau ymweld i ymgeiswyr yma.

4. Cyfweliadau

Mae rhai cyrsiau a rhai prifysgolion yn cynnal cyfweliadau cyn anfon ateb i’ch cais. Ceir awgrymiadau ar sut i ymdrin â chyfweliadau prifysgol yma.

5. Amodol, Diamod, Gwrthod

Dyma’r mathau o ymateb y byddwch chi’n eu cael gan y prifysgolion y byddwch yn eu dewis:

  • Amodol: Mae hyn yn golygu bod y brifysgol yn gofyn i chi gyflawni graddau penodol yn eich arholiadau neu waith portffolio. Bydd methu â chyflawni’r hyn maen nhw wedi gofyn amdano’n golygu y caiff eich cais ei wrthod;
  • Diamod: Mae’r Brifysgol yn ddigon bodlon gyda’r wybodaeth rydych chi wedi’i darparu ac yn teimlo eich bod yn barod yn academaidd i ddechrau ar eich gradd;
  • Gwrthod: Peidiwch â chymryd hyn yn bersonol, mae’n digwydd! Mae llawer o resymau pam fod ceisiadau penodol yn cael eu gwrthod ond gallwch gymryd mai’r rheswm yw efallai na lwyddoch chi i ddangos sut y gallech gyflawni graddau gofynnol y Brifysgol neu fod y gystadleuaeth yn eich blwyddyn chi yn eithriadol o uchel. Bydd gennych chi ddewisiadau eraill i’w hystyried o hyd.

6. Ymateb i’ch Prifysgol (Pendant/Yswiriant)

Bydd hwn yn ddewis arall fydd yn newid eich bywyd. Ewch i’n tudalen benodol i gael rhagor o wybodaeth.