Sut i ymdopi â straen

pobl yn cerdded ar y traeth

Mae straen yn rhywbeth sy’n gyffredin i ni i gyd.

Mae pob un ohonom wedi cael profiad ohono - boed ym myd addysg, y gweithle, gweithgareddau cymdeithasol neu ddigwyddiadau personol.

Bydd yr effaith y bydd yn ei gael arnom yn amrywio, gan ddibynnu ar y modd y bydd yr unigolyn yn ei reoli neu’n ymdopi ag ef.

Er gwaethaf hyn, gall fod yn faich trwm i’w gario.

Profiad tebyg yw bod yn fyfyriwr yn y brifysgol a gall straen ddigwydd oherwydd: pwysau gwaith, dyddiadau cau, cyflwyniadau, arholiadau, arian, llety, cydletywyr, “ffitio mewn”, dewisiadau gyrfa a llawer mwy.

Gwelir isod ambell awgrym ynghylch sut i reoli’r pwysau allanol y byddwch yn ei wynebu a sut i fod yn fwy cryf yn emosiynol er mwyn delio ag ef:

  1. Cadw’n heini: o fynd am dro i gael rhywfaint o awyr iach, i sesiwn hir yn y gampfa – gall ymarfer corff eich helpu i glirio’r meddwl, lleihau’r teimlad o straen a’ch gwneud yn fwy cryf i ddelio â straen allanol.
  2. Technegau tawelu: gallwch lwytho apiau ymlacio i’ch ffôn, gwneud ymarferion anadlu, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a thechnegau ymlacio eraill i’ch helpu i adnabod a lleihau straen.
  3. Rhwydwaith cefnogi: weithiau mae’n dda cael amser i chi’ch hun, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi hefyd yn perthyn i grŵp cymdeithasol rydych yn teimlo’n gyfforddus yn eu plith. Mae’n dda i siarad a chael barn/atebion i’r heriau yr ydych yn eu hwynebu. Gall sgwrsio gyda ffrindiau eich helpu i ymlacio a bod yn hwyl hefyd – sy’n wych ar gyfer gwella straen!
  4. Gweithio’n fwy trefnus: gosod amcanion, cynllunio, trefnu amser yn briodol, blaenoriaethu gwaith a chwblhau’r tasgau pwysig yn gyntaf – bydd hyn i gyd yn eich helpu i ddelio â phrosiect/sefyllfa yn fwy effeithiol a gwrthsefyll effeithiau negyddol straen
  5. Bwyta’n dda: er gall alcohol, ysmygu, caffein a bwyd sy’n eich cysuro ymddangos yn ddeniadol os ydych dan straen, ceisiwch eu hosgoi. Maen nhw’n gallu arwain at broblemau eraill yn y tymor hir. Gall deiet iach, cytbwys a maethlon helpu i baratoi a chynnal eich corff mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen.
  6. Bod yn gadarnhaol: gall fod yn anodd, ond ceisiwch fod yn gadarnhaol. Dysgwch ddyfyniad sy’n ysbrydoli. Canolbwyntiwch ar y pethau da yn eich bywyd a’r pethau y gallwch fod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Hefyd, mae derbyn bod rhai pethau yn eich bywyd nad oes modd eu newid yn anodd i’w wneud ond hefyd yn llesol, ac yn gymorth i chi ganolbwyntio ar y pethau y gallwch eu newid.

 

Ambell awgrym yn unig sydd yma i’ch helpu i ymdopi â straen. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau’r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yn cynnwys a chysylltiadau defnyddiol eraill.