Cyngor ar Arholiadau
Os ydych wedi gwylio ein fideo “ymdopi â straen arholiadau”, uchod, yn anffodus ni fyddwch yn cael mynd â chi i’r ystafell arholi gyda chi!
Ond, dyma rai awgrymiadau sy’n werth eu nodi pan fyddwch ar fin dechrau’r arholiad.
- Darllenwch y cwestiwn: mae’n swnio’n amlwg, ond mae’n hanfodol. Cofiwch ddarllen y cwestiwn neu gwestiynau, yn ofalus, i ddeall sut y dylech ymateb a chadwch hynny mewn cof.
- Cynlluniwch eich ateb: neilltuwch amser, rhwng 5 a 10 munud, i gynllunio eich ateb i gwestiwn er mwyn bod eich ateb wedi’i strwythuro, yn canolbwyntio ar y cwestiwn ac yn gyflawn.
- Rhannwch eich amser: gwnewch nodyn o nifer y cwestiynau a nifer y marciau ar gyfer pob cwestiwn a rhannu’ch amser yn unol â hynny – glynwch at yr amserlen yma, er mwyn cael digon o amser i ateb.
- Peidiwch â mynd i banig: os ydych yn ansicr ynglŷn â chwestiwn neu os bydd eich meddwl yn wag.
Chwiliwch am y geiriau “allweddol” – e.e. disgrifiwch, gwerthuswch, cymharwch – mewn cwestiwn. Os bydd eich meddwl yn wag, ceisiwch gofio darlith neu ddosbarth ymarferol ar y pwnc a nodwch beth gallwch ei gofio – efallai bydd gair neu ymadrodd yn procio’r cof! Os bydd eich meddwl yn wag o hyd, ewch yn eich blaen a dod yn ôl at y cwestiwn yn hwyrach. - Atebwch bob cwestiwn: peidiwch byth â gadael cwestiwn yn wag. Hyd yn oed os na byddwch 100% yn sicr, rhowch gynnig arno. Os bydd amser yn brin iawn, ac os daw hi i’r pen, ysgrifennwch restr ar ffurf pwyntiau bwled fel ateb.
- Gadewch amser i adolygu: yn yr un modd â chynllunio ateb i gwestiwn arholiad, caniatewch rhwng 5 a 10 munud i adolygu’ch gwaith – yn enwedig sillafu a gramadeg – gan y bydd cywiro’r camgymeriadau hyn yn rhoi marciau ychwanegol i chi.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ewch i’r adran SgiliauAber - Arholiadau.