Sut i ddewis prifysgol

Dau fyfyriwr yn cynnal ymchwil wyddonol.

Mae sawl peth i'w hystyried wrth ddewis prifysgol. Gobeithio bydd yr awgrymiadau isod yn eich helpu gyda'r penderfyniad a gwneud y broses ychydig yn haws.

  • Ymchwilio ac ymchwilio
    Bydd darganfod cymaint ag y gallwch am brifysgolion posibl, mor fuan â phosibl, yn help garw – ystyriwch ddefnyddio gwefannau cymharu ar-lein i ddechrau.
  • Graddau tebygol
    Bydd ystyried pa raddau rydych yn debygol o’i gael (e.e. yn Safon Uwch/Lefel-A) yn helpu i gyfyngu a chanolbwyntio ar y prifysgolion sydd o ddiddordeb i chi. Efallai y byddai’n werth ystyried prifysgolion sydd â gofynion mynediad ychydig yn is neu uwch hefyd.
  • Y cwrs iawn
    Mae’n debygol iawn mai hwn yw’r ffactor pwysicaf i’ch helpu i benderfynu. Cofiwch na fydd rhai prifysgolion yn cynnig eich cwrs, ond bydd rhai eraill. Dylech ymchwilio’n drylwyr i hyn.
  • Bywyd myfyriwr
    Er bod astudio’n bwysig, bydd cyfle hefyd i fwynhau’r agweddau cymdeithasol ar fod yn fyfyriwr – ffrindiau, clybiau, cymdeithasau, teithiau, nosweithiau allan – felly os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon penodol neu ddiddordeb arall gwnewch yn siŵr bod clwb i chi ymuno ag ef a chyfleusterau da.
  • Lleoliad
    A ydych am fyw mewn dinas fawr neu dref fach? A fyddwch yn teithio adre yn aml neu dim ond ar ddiwedd y tymor? Ydych chi eisiau astudio dramor? Mae’r holl gwestiynau hyn yn bwysig i’w cadw mewn cof.
  • Safle ac enw da
    Cofiwch edrych ar dablau cynghrair prifysgolion i gael syniad o rinweddau academaidd ac anacademaidd y brifysgol, neu fforymau adolygiadau gan fyfyrwyr i weld beth sydd gan fyfyrwyr presennol neu gynfyfyrwyr i’w ddweud.
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    O ystyried y buddsoddiad ariannol sylweddol, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar unrhyw Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau y gall prifysgol eu cynnig  i chi.
  • Diwrnodau agored
    Mynychu Diwrnod Agored yw’r unig ffordd bendant o gael gwir ymdeimlad o brifysgol a gallu dychmygu eich hun yno neu beidio.