Tensiwn Arwyneb

Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!

Sut mae pryfed sy’n sglefrio ar byllau yn aros ar arwyneb y dŵr heb suddo? Pam mae dŵr yn ymffurfio yn ddiferion? Mae hyn oherwydd maes grym gwan, o’r enw tyniant arwyneb, lle y mae dŵr yn dod i gyswllt â’r aer.

CWESTIWN CWIS!

Pa rymoedd rhwng moleciwlau dŵr sy'n achosi tensiwn arwyneb?