Dysgu sut mae brechlynnau yn helpu ymladd yn erbyn y Coronafeirws
Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers canfod feirws newydd, ac mae ein bywydau wedi newid. Teimlwyd am amser hir y byddai’n rhaid i ni hunanynysu am gyfnod hir iawn, fodd bynnag, cafwyd llygedyn o obaith pan gymeradwywyd y brechlyn cyntaf. Ar hyn o bryd, mae tri brechlyn yn cael eu dosbarthu yn Ewrop, ac mae’r nifer y bobl sydd wedi eu brechu’n cynyddu’n raddol. Ond, sut mae'r brechiadau’n gweithio go iawn yn erbyn coronaferiws?
Taflen Weithgaredd
Taflen Weithgaredd - Dysga sut mae brechlynnau yn helpu i ymladd yn erbyn y coronafeirws