Dyfeisiau Gwisgadwy ar Gyfer Chwaraeon ac Iechyd

Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!

Dyfeisiadau i’w gwisgo ar yr arddwrn i fesur pa mor actif ydych chi, festiau mae pêl-droedwyr yn eu gwisgo i gofnodi lle maen nhw wedi bod ar y cae, a racedi tenis gyda synwyryddion i fesur cyflymder y serf. Dyma’ch cyfle i weld y rhain a dyfeisiadau eraill sy’n gallu monitro’ch iechyd chi eich hun a’ch perfformiad mewn chwaraeon!

CWESTIWN CWIS!

Beth sy'n digwydd i guriad calon rhywun wrth wneud ymarfer corff?