Cornel Rhieni ac Athrawon
Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â chynnal digwyddiadau fel yr Wythnos Wyddoniaeth, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai ac adnoddau am ddim i ysgolion.
Adborth
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth sydd gennych fel bod ni gallu gwella'r digwyddiad hwn yn y dyfodol.
Dyma'r linc i lenwi'r ffurflen adborth.
Os dewch chi o hyd i broblem gydag un o'n tudalennau gwe neu stondinau, cysylltwch â ni - denu-myfyrwyr@aber.ac.uk
Cwis Wythnos Wyddoniaeth Prydain
Yn yr un modd â phob blwyddyn, mae gennym cwis i'ch plant/disgyblion ei gwblhau wrth iddynt ymweld â'r gwahanol stondinau.
Rydym yn argymell eich bod yn cadw'r cwis ar agor mewn tab arall ar eich porwr, fel y gallwch fynd yn ôl ac ymlaen yn hawdd rhwng y stondinau a'r cwis.
Hwb Adnoddau Ar-lein
Mae gan y Brifysgol hefyd Hwb Adnoddau Ar-lein sy'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth i Athrawon, Rhieni a Myfyrwyr o bob oed.
Gallwch gael mynediad i'r Hwb Adnoddau Ar-lein fan hyn.
Gweithgareddau Allgymorth
Os hoffech i'ch plant/disgyblion ddysgu mwy am wyddoniaeth, yna efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn trefnu gweithgaredd allgymorth efo ni. Dysgwch fwy am y gweithgareddau allgymorth sydd ar gael gyda'r adrannau islaw.