Aberfflics

Mae Aberfflics yn gasgliad o fideos Addysg Uwch gyda nifer o gyfresi fideo ar faterion fel Newid Hinsawdd, ond yn hefyd yn arddangos yr holl bynciau amrywiol rydym yn eu haddysgu a chyngor ac arweiniad ar eich cais i'r Brifysgol.

Bob mis byddwn yn arddangos cyfres newydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl yn rheolaidd i ddarganfod ein fideos newydd.

Heriau 2030

Mae 'Heriau 2030', yn edrych ar broblemau'r dyfodol o safbwynt amrywiaeth o bynciau.

Ein nod yw rhoi cipolwg i chi ar ddulliau addysgu ac ymchwil ein darlithwyr wrth drafod y problemau bydd y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod y degawd nesaf.

Gwneud y Gorau o...

Byddwn yn cyflwyno pynciau penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt.

Byddant yn edrych ar yr holl benderfyniadau gwahanol y mae angen i chi eu gwneud drwy gydol y cyfnod hwn; boed yn gwneud y gorau o’r chweched dosbarth ei hun, mynychu ffeiriau Addysg Uwch rhithiol ac wyneb yn wyneb, Diwrnodau Agored, Cyfweliadau Prifysgol a llawer mwy.

Aberystwyth a Newid Hinsawdd

Rydym wedi datblygu ystod eang o raddau sy'n gysylltiedig â Newid Hinsawdd ar draws meysydd pwnc amrywiol, sy'n rhychwantu'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau.

Mae academyddion o Aberystwyth wedi gwneud recordiadau er mwyn trafod Newid Hinsawdd yn gysylltiedig â'u maes pwnc.

Cyfres fideos yn dod yn fuan

Cyfres o atebion syml i gwestiynau anodd am Addysg Uwch - dod yn fuan

Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt

Mae'r gyfres Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt yn canolbwyntio ar pynciau penodol i gyflwyno'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud cyn dewis cwrs gradd, yn ystod y cyfnod astudio ei hun a sut mae cyn-fyfyrwyr y Brifysgol wedi llwyddo y tu hwnt i astudio'r cwrs.

Busnes: Ein cyn-fyfyriwr Llion o gwmni Y Gorau o Gymru / Best of Wales a Steffan o Galeri Caernarfon sydd yn cyflwyno’r rhan ‘Tu Hwnt’ yn ein sesiwn Busnes.

Sesiynau Blasu

Mae'r 'Sesiynau Blasu' hyn wedi eu cynllunio i gyfoethogi eich astudiaethau cyfredol tra'n arddangos y cyfoeth o bosibiliadau academaidd sydd ar gael yn y brifysgol.

Rydym yn trafod ystod o faterion cyfoes a addysgir yn cyrsiau ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar draws amrywiaeth o wahanol bynciau.

Llais y Myfyrwyr

Cyfres o 2 weminar o'r enw Llais y Myfyrwyr, sy'n rhoi golwg i chi ar eich dyfodol yn y Brifysgol.

Rhoddir pwyslais ar yr hyn sydd i ddisgwyl yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ynghyd ag ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan ddarparu mewnwelediad clir i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth.

Byddwch yn clywed barn myfyrwyr presennol ac yn derbyn rhywfaint o gyngor defnyddiol ac awgrymiadau ar gyfer y dyfodol.

Eich canllaw i Addysg Uwch: Gwneud y cam o Ymgeisio i Lwyddo

Nod y gyfres fideo hon yw eich cefnogi bob cam o'r ffordd o ymgeisio i gyrraedd Prifysgol. Rydym yn ymdrin â phynciau fel dewis beth i'w astudio, ysgrifennu eich Datganiad Personol, sut fydd Bywyd Myfyriwr ac yn olaf, gwneud Cyllid Myfyrwyr yn hawdd i'w ddeall.

Mae ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gweithio'n barhaus i roi gwybodaeth gynhwysfawr am addysg uwch i fyfyrwyr, athrawon a rhieni.  

Yr Hyn Mae Tiwtoriaid Derbyn Yn Edrych Amdano

Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar gyfadran benodol a bydd yn cynnwys sgwrs fyw gyda Swyddog Denu Myfyrwyr, Tiwtor Derbyn a Myfyriwr presennol er mwyn cefnogi chi i lunio eich cais prifysgol.

Cyflwyniad i astudio Gwyddoniaeth Filfeddygol

Bu’r Athro Darrell Abernethy, Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, yn cyflwyno gwaith llawfeddyg milfeddygol i fyfyrwyr ac yn cynnig cyngor ar sut i wneud cais i astudio.

Mae Rhan 1 yn ymdrin â'r hyn y mae Milfeddygon yn ei wneud, yr hyn sydd ei angen i ddod yn Filfeddyg, sut i wella'ch siawns o lwyddo wrth wneud cais a pham y dylech astudio'r Gwyddorau Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn Rhan 2 gallwch wrando ar y sesiwn Holi ac Ateb lle cafodd myfyrwyr gyfle i ofyn cwestiynau ynghylch y cwrs Gwyddor Filfeddygol newydd.

Gweminarau Gwleidyddiaeth

Bu Prifysgol Aberystwyth yn trafod Materion Cyfoes mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda gwestai fel Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones a chyn prif weinidog Cymru, Carwyn Jones

Mae'r recordiadau hyn yn berffaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth. Bydd rhain yn eich helpu efo'ch astudiaethau presennol ac yn rhoi cipolwg i chi ar y math o addysg sydd ar gael yn y Brifysgol.

Bagloriaeth Cymru

Cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â Senedd Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dair sesiwn i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio'r Fagloriaeth.

Mae'r 3 sesiwn wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddewis cwestiwn ymchwil, yna cael gafael ar ffynonellau gwybodaeth dibynadwy ac yna o'r diwedd dysgu pwysigrwydd cyfeirio.

Nyrsio

Yn y fideos yma, byddwn yn clywed wrth y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, a fydd yn cyflwyno negeseuon allweddol ynglŷn â’i rhaglennu nyrsio yn y maes oedolion ac iechyd meddwl. Mi fydd y tîm o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, sydd yn cynnwys darlithwyr nyrsio yn trafod themâu sydd wedi eu hanelu i’ch cynorthwyo i benderfynu ar yrfa mewn nyrsio a sut i baratoi eich cais.