Dosbarthiadau Meistr Pwnc-benodol

Myfyrwyr yn cynnal profion: myfyrwyr yn cotiau gwyn; offer labordy

Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau meistr, sgyrsiau a gweithdai pwnc-benodol a luniwyd i helpu ac ysbrydoli dysgwyr.

Cysylltwch â denu-myfyrwyr@aber.ac.uk os oes gennych chi unrhyw ofynion pwnc penodol.

Addysg

Busnes

Celf

Cyfrifiadureg

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Arwyr ac ysbïwyr: sut i greu cymeriadau cofiadwy

Gweithdy ysgrifennu creadigol yw hwn sy'n canolbwyntio ar y gwaith o lunio cymeriad. Beth sy'n gwneud cymeriad mewn stori yn unigolyn byw a chredadwy? Sut orau i fynd ati i greu cymeriad crwn gyda'r dychymyg yn unig? Cei'r atebion a chyfle i greu yn y sesiwn hon.

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Lle a Hunaniaeth

Bydd y sesiwn yn rhoi arweiniad ar sut mae daearyddwyr wedi deall y cysyniad o le a’r ffordd mae lle yn chwarae rôl ganolog wrth ddiffinio hunaniaeth grwp. Trafodir nifer o astudiaeth achos cyfoes fel ffordd o archwilio’r syniadau hyn.

Ffiseg

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Brexit a Dyfodol y Deyrnas Unedig

Mae penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn dilyn canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi codi nifer o gwestiynau ynglŷn a dyfodol y wladwriaeth. Beth fydd effaith Brexit ar statws rhyngwladol y Deyrnas Unedig? Beth fydd effaith Brexit ar yr economi ac ar safonau byw ar draws y Deyrnas Unedig? Beth fydd effaith Brexit ar ein rhyddid i deithio, astudio a gweithio ar draws Ewrop? Beth fydd effaith Brexit ar undod y Deyrnas Unedig a’r berthynas rhwng Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon? Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cynnig cyflwynid i rai o brif bynciau llosg y broses Brexit ac yn holi i ba raddau y bydd y Deyrnas Unedig dal yma erbyn y flwyddyn 2050!

Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Gyfraith

Hanes a Hanes Cymru

Gwrando ar Hanes: Y Mudiad Hawliau Sifil yn America

Dywedwyd bod y mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn ystod y 1950au a’r 1960au yn ‘fudiad canu mawr’ ble y defnyddiwyd caneuon fel arfau mewn brwydr dros ryddid, cyfiawnder a chydraddoldeb. Mae’r sesiwn hon yn defnyddio’r mudiad hawliau sifil fel achos enghreifftiol er mwyn ystyried i ba raddau y gall haneswyr wrando ar hanes a defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau clywedol fel ffynonellau hanesyddol gwreiddiol. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio caneuon, siantau, pregethau, areithiau, darllediadau radio a pherfformiadau comedi i drafod y materion sy’n codi pan fo haneswyr yn gwrando ar hanes.

Ieithoedd Modern

Mathemateg

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Saesneg Rhyngwladol

Seicoleg

Seicoleg Iechyd mewn Gweithred!

Mae seicoleg ar waith o'n gwmpas ni; weithiau mewn ffyrdd yr ydym yn ymwybodol ohonynt ond weithiau mewn ffyrdd cynnil nad ydym ni! Yn y sesiwn hon, rydym yn ystyried sut mae seicoleg ar waith i newid ein hymddygiad iechyd yn fwriadol ac yn gyfrwys; weithiau'n gyda'r bwriad o annog ni i fod yn fwy iach ac weithiau'n ein tystio i arferion afiach!

Theatr, Ffilm a Theledu

Ym Mhob Iaith

Dyma sesiwn ymarferol a fydd yn cyflwyno sgiliau ar gyfer dyfeisio perfformiadau creadigol.  Fe fydd yn cynnwys elfennau o symud, ac o addasu symudiadau er mwyn creu golygfeydd dramataidd gyda thestunau a gofod.