Gwrando ar Hanes: Y Mudiad Hawliau Sifil yn America
Dywedwyd bod y mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn ystod y 1950au a’r 1960au yn ‘fudiad canu mawr’ ble y defnyddiwyd caneuon fel arfau mewn brwydr dros ryddid, cyfiawnder a chydraddoldeb. Mae’r sesiwn hon yn defnyddio’r mudiad hawliau sifil fel achos enghreifftiol er mwyn ystyried i ba raddau y gall haneswyr wrando ar hanes a defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau clywedol fel ffynonellau hanesyddol gwreiddiol. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio caneuon, siantau, pregethau, areithiau, darllediadau radio a pherfformiadau comedi i drafod y materion sy’n codi pan fo haneswyr yn gwrando ar hanes.