Neilltuir Tiwtor Personol i bob myfyriwr aeddfed. Mae ganddynt swyddogaeth bwysig o fewn i’r fframwaith cyffredinol o gefnogi myfyrwyr aeddfed a’u datblygiad personol yn y Brifysgol. Mae’r rôl yn hanfodol wrth helpu myfyrwyr i ddysgu lle gallant gael cymorth, sut a ble i holi am gyngor a sut i fynd ati i gael cymorth i wneud y mwyaf o’u profiad fel myfyrwyr.
Mae Tiwtoriaid Personol yn darparu cyswllt rheolaidd rhwng y myfyriwr a’r adran academaidd, y pwnc neu Gyfadran. Bydd tiwtoriaid ar gael i ymgynghori ar adegau rhesymol trwy drefniant, ac yn gallu cyfeirio myfyrwyr i gael cyngor arbenigol mewn mannau eraill yn y Brifysgol.