Gwneir gwaith y Bartneriaeth i hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad ehangach mewn addysg uwch er lles y cyhoedd. Mae angen inni sicrhau bod yr arian a dderbyniwn gan asiantaethau cyllido'r llywodraeth yn cael ei wario'n briodol a bod iddo effaith gadarnhaol. Er mwyn mesur yr effaith a chynnal ein gweithgareddau, mae angen inni gasglu data am gyfranogiad y myfyrwyr.
Mae'r Bartneriaeth yn prosesu data personol gan ei bod yn angenrheidiol i'r Bartneriaeth gyflawni tasg er lles y cyhoedd ac ar gyfer ei swyddogaethau swyddogol.
Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig ar y sail ei fod er lles sylweddol y cyhoedd a'i fod yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol i fonitro cyfle cyfartal yn unol â Ddeddf Cydraddoldeb.
Cydsyniad yw'r sail gyfreithiol dros brosesu'r defnydd o ffotograffau a hysbysiadau marchnata.
Mae'r Bartneriaeth yn casglu data ar unigolion am y rhesymau a ganlyn:
1. At ddibenion monitro sy'n caniatáu i'r Bartneriaeth:
- gyflawni'r gofynion adrodd allanol gorfodol i gyrff rheoleiddio fel Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).
- rhoi darlun clir o'r gweithgareddau rydym yn eu cyflawni a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw.
- sicrhau ein bod yn cyrraedd y rhai a allai elwa fwyaf o weithgareddau estyn allan.
2. At ddibenion ymchwil a gwerthuso sy'n ein helpu ni asesu effeithiolrwydd gwahanol fentrau sy'n ymwneud ag ehangu cyfranogiad o Addysg Uwch. Mae hynny'n cynnwys olrhain anhysbys yn y tymor hir ar siwrneiau addysgol y cyfranogwyr, i nodi faint o gyfranogwyr y Bartneriaeth sy'n mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol.
3. Nodi cyfranogwyr sy'n perthyn i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli mewn Addysg Uwch a sicrhau bod pobl o'r grwpiau hyn yn cael mynediad â blaenoriaeth yng ngweithgareddau'r Bartneriaeth.
4. Sicrhau iechyd a diogelwch a lles holl gyfranogwyr ein rhaglenni a chynorthwyo gydag anghenion bugeiliol a lles e.e. sicrhau ein bod yn ymwybodol o gyflyrau meddygol ac anableddau.
5. Anfon gwybodaeth berthnasol ac angenrheidiol ynghylch y gweithgareddau arfaethedig yn ogystal â hysbysiadau marchnata.