Am y pum mlynedd diwethaf, mae Gyrfa Cymru a Phrifysgol Aberystwyth wedi gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno digwyddiad gyrfaoedd effaith uchel o’r enw ‘Dewis Eich Dyfodol’ ar gyfer disgyblion blynyddoedd 10 i 13 yng Ngheredigion. Nod y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn economi Cymru yn y dyfodol a’u hannog i gysylltu â chyflogwyr.
Mae’r brifysgol hefyd yn cefnogi ysgolion lleol i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau eraill megis rhaglenni ffug gyfweliadau, gweithdai CV, a digwyddiadau opsiynau ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac 11.