Aber Ar Agor
Nod rhaglen breswyl Aber Ar Agor yw helpu myfyrwyr Blwyddyn 12 i ymchwilio a pharatoi ar gyfer y brifysgol ac yn y pen draw at ehangu mynediad at addysg uwch.
Eleni, bydd Aber Ar Agor yn rhedeg o ddydd Llun 8fed Gorffennaf tan ddydd Gwener 12fed Gorffennaf. Mae ceisiadau ar gyfer 2024 bellach wedi agor a gellir dod o hyd i'r holl fanylion am sut i wneud cais isod.
Bydd Aber Ar Agor yn cynnal rhaglen breswyl ragorol 5 diwrnod ei hyd sy’n ceisio paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer bywyd prifysgol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau academaidd allweddol, a bydd sesiynau mwy cymdeithasol ac addysgiadol yn cael eu cynnal i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn bywyd prifysgol ac i gefnogi eu ceisiadau UCAS.
Sut i ymgeisio
Cam 1 - Cwblhau'r Ffurflen Gais
Cam 2 - Cadarnhau eich Dewisiadau
Cam 3 - Geirda a Chaniatâd Rhieni/Gwarcheidwaid
Cam 4 - Pacio a Pharatoi
Beth yw Aber Ar Agor?
Mae ceisiadau ar gyfer Aber Ar Agor ar gael i fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 12 ar hyn o bryd ac sy'n astudio mewn ysgol neu goleg yng Nghymru.
- Bydd rhaglen 2024 yn rhedeg o ddydd Llun 8 Gorffennaf tan ddydd Gwener 12 Gorffennaf.
- Rydym yn darparu cludiant AM DDIM i Brifysgol Aberystwyth ac oddi yno.
- Rydym hefyd yn darparu llety a bwyd am ddim.
- Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn 3 sesiwn blasu pwnc o amrywiaeth o bynciau gwahanol. - (Gallwch weld ein rhestr o feysydd pwnc yma)
Mae lleoedd yn gyfyngedig a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n bodloni prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Ydych chi'n gymwys?
Bydd tua 100 o lefydd i fyfyrwyr ym mlwyddyn 12, sy'n astudio mewn ysgol neu goleg yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym yn targedu myfyrwyr sy'n bodloni meini prawf ehangu mynediad, gan ganolbwyntio ar (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rheini:
- O godau post sydd yn ardaloedd cwintiles is (1 a 2) ar gyfer WIMD (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) - edrychwch ar eich cod post yma
- Sy'n brofiadol mewn gofal (wedi treulio tri mis neu fwy mewn gofal ers yn 14 oed.)
- Y genhedlaeth gyntaf yn y teulu i fynd i'r brifysgol.
- Sy'n ofalwyr ifanc
- Sydd wedi dieithrio oddi wrth eu teulu.
- Sydd ag un o'r statws mewnfudo canlynol; ffoadur, amddiffyniad dyngarol, ceisiwr lloches.