Ffair Astudio Ôl-raddedig
![](/cy/study-with-us/pg-studies/study-fair/PG-Study-Fair-1.jpg)
Ffair Astudio Ôl-raddedig, 19 Chwefror 2025, 16:30 – 19:00, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ymunwch â'r Ffair Astudio Ôl-raddedig i ddarganfod:
- Holl opsiynau astudio ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Sut y gall astudiaethau ôl-raddedig wella eich rhagolygon gyrfa
- Ysgoloriaethau a chyfleoedd ariannu
- Ein staff academaidd a’n cyfleusterau dysgu
- Llety a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr
Bydd gennych hefyd gyfle i siarad gyda myfyrwyr ôl-raddedig presennol a chlywed am eu profiadau.
"Fe wyddwn mod i am barhau i astudio, ac roeddwn yn ‘nabod ac yn ymddiried yn y staff dysgu yn Aber. Roedd yn hawdd newid i astudio ar lefel uwchraddedig, ac mae’r gefnogaeth yn wych."
"Dewisais Brifysgol Aberystwyth am fod ganddi gymaint o enw da ar gyfer fy maes astudio penodol."