Beth yw gradd Ymchwil?
Mae gradd uwch trwy ymchwil (ee MPhil neu PhD) yn gofyn am astudiaeth fanwl o fewn maes penodol sy'n gydnaws â diddordebau ymchwil y Brifysgol. Mae myfyrwyr ymchwil yn cynhyrchu gwaith gwreiddiol a chyhoeddadwy, a chyflwynir y canlyniadau mewn traethawd ymchwil a thrwy arholiad llafar (viva).
Mae MPhil yn radd Meistr trwy ymchwil, ac mae'n caniatáu i unigolion ymchwilio i faes o ddiddordeb penodol. Dylai'r gwaith fod yn wreiddiol.
Mae angen cryn ymrwymiad i PhD ac fel arfer mae'n ofynnol ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y byd academaidd. Dylai'r gwaith fod yn wreiddiol ac o safon sy'n haeddu cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.