Dysgu o Bell
Mae Dysgu o Bell yn disgrifio dull amgen o gyflwyno cyrsiau a addysgir trwy becynnau astudio ac ysgolion astudio yn hytrach na'r dull traddodiadol o ddarlithoedd neu seminarau.
Mae ein cyrsiau Dysgu o Bell yn caniatáu ichi astudio ar lefel ôl-raddedig heb adael eich swydd na'ch cartref, ac eithrio mynychu Ysgolion Astudio preswyl byr yn Aberystwyth. Mae'r dull hwn o ddysgu yn annog myfyrwyr i fod yn uchel eu cymhelliant, i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain, ac i reoli eu hamser yn effeithiol.
Gellir ymgymryd â Dysgu o Bell ar hyn o bryd yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Adran y Gyfraith a Throseddeg a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).