Ymadael yn Gynnar
Ffioedd Dysgu
Ar ôl i fyfyrwyr ymadael yn swyddogol o raglen astudio, mae’n bosibl y byddent yn gymwys am ostyngiad yn y Ffioedd Dysgu am y flwyddyn academaidd honno. Cyfrifir y gostyngiad yn ôl dyddiad swyddogol yr ymadael. Gweler y siart isod am 2022/23.
Blaendaliadau rhyngwladol: Ni ellir ad-dalu blaendaliadau sy'n ofynnol gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n talu ffioedd cyn cofrestru os yw myfyriwr yn dewis tynnu'n ôl o raglen astudio cyn neu ar ôl cofrestru.
DYDDIAD YMADAEL |
% o'r ffi sydd angen ei dalu |
Tymor 1 - Rhwng 26ain Medi 2022 a 9fed Hydref 2022 |
0% |
Tymor 1 - Rhwng 10fed Hydref 2022 a 17eg Rhagfyr 2022 |
25% |
Tymor 2 – Rhwng 9fed Ionawr 2023 a 25ain Mawrth 2023 |
50% |
Tymor 3 - Rhwng 17eg Ebrill 2023 a 3ydd Mehefin 2023 |
100% |
Os bydd myfyriwr yn ymadael y Brifysgol ac wedi gwneud cais am Grant/Benthyciad ar gyfer y Ffioedd Dysgu, yna Cyllid Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am yr atebolrwydd Ffioedd yn yr achos hwn. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ymadael â’r Brifysgol ac yn talu’n breifat, bydd anfoneb neu ad-daliad yn cael ei anfon at y cyfeiriad cartref yn dibynnu ar yr hyn a dalwyd hyd at y dyddiad ymadael. Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o gategorïau myfyrwyr llawn amser a rhan-amser, ond cysylltwch â fees@aber.ac.uk os dymunwch eglurhad pellach.
Ffioedd Llety
Ar ôl i gynnig o le yn llety’r Brifysgol gael ei dderbyn, bydd y myfyriwr yn atebol i dalu’r ffioedd sy'n ddyledus am gyfnod cyfan y cytundeb. Dim ond ar sail feddygol, lles neu academaidd cymeradwy y gall y Swyddfa Academaidd ganiatáu rhyddhau myfyriwr o’r contract. Fodd bynnag, hyd yn oed yn yr achosion hynny mae’r myfyriwr yn dal yn atebol i dalu’r ffi sy’n ddyledus am y cyfnod y buont yn byw yn y llety, neu’n gyfrifol am y llety, a chyfrifir y ffi hon ar gyfradd ddyddiol.
Bydd myfyrwyr sydd wedi gordalu ar ôl ymadael yn derbyn ad-daliad, ynghyd â’u blaendal. Fodd bynnag, os nad yw’r myfyriwr wedi talu digon pan fyddant yn ymadael, bydd eu blaendal yn cael ei wrthbwyso yn erbyn y swm sy’n weddill a gyrrir anfoneb atynt am unrhyw falans sy’n weddill.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Ymadael, ewch i’r adran Cwestiynau a Holir yn Aml ynghylch Ymadael ar wefan Cymorth i Fyfyrwyr.