Ysgoloriaeth Graddedigion Aber

Angen cymorth i ariannu’ch cwrs Meistr yn 2025?
Mae gostyngiad o £1,000 mewn ffioedd dysgu ar gael i raddedigion Aberystwyth sy’n cofrestru yn 2025 ar gyfer cyrsiau Meistr a Addysgir ar y campws, LLM trwy Ymchwil, rhaglenni MPhil, neu’r cyrsiau Dysgu o Bell a restrir isod.
Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr o wledydd Prydain, yr Undeb Ewropeaidd, a myfyrwyr Rhyngwladol sydd â gradd israddedig 2:2 neu'n well o Brifysgol Aberystwyth, ac sy'n gwneud cais am gwrs sydd ar y campws.
Nid oes angen gwneud cais am yr Ysgoloriaeth gan y bydd yn cael ei chyfrif yn awtomatig a’i rhoi ar waith pan fyddwch yn talu’ch ffioedd.
Pwy sy'n gymwys?
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd 2:2 neu well yn eu gradd israddedig.
- Mae graddedigion Prifysgol Aberystwyth sy’n hanu o wledydd Prydain, gweddill yr Undeb Ewropeaidd ac sydd yn fyfyrwyr Rhyngwladol yn gymwys i wneud cais.
- Gall ymgeiswyr ddal Ysgoloriaeth Graddedigion Aber gyda chyllid arall ar yr amod nad yw'r swm cyfunol yn fwy na 50% o'r ffioedd dysgu Meistr arfaethedig. (Sylwer: Cyfrifoldeb yr ymgeisydd ydyw i ofyn am gadarnhad o hyn.).
- Mae’r cyrsiau cymwys yn cynnwys cyrsiau Meistr a Ddysgir ar y campws, MPhil ac LLM drwy Ymchwil (amser-llawn a rhan-amser)
- Rhaid derbyn eich cais ar gyfer cwrs perthnasol erbyn 31 Gorffennaf 2025.
- Mae’r cyrsiau Dysgu o Bell canlynol yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Graddedigion Aber:
- MSc Amaethyddiaeth Gynaliadwy (D413D)
- MRes Amaethyddiaeth (D410D)
- DAg Amaethyddiaeth (D4201)
- MSc Arloesi Bwyd-Amaeth (D67ND)
- MRes Arloesi Bwyd-Amaeth (J792D)
- UCert Gwyddor Da Byw (D321D)
- UCert Gwyddor Anifeiliaid (D312D)
- MA Rheoli Archifau a Chofnodion (P132D)
- MA Rheoli Archifau a Chofnodion (P132D2)
- MA Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (P194D)
- MA Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (P194D2)
- EMBA Rheolaeth (N1835D)
Eithriadau:
- Nid yw ymgeiswyr gyda chyllid arall sy'n fwy na 50% o'r ffioedd dysgu arfaethedig (cyn neu ar ôl cyfuno Ysgoloriaeth Graddedigion Aber) yn gymwys
- Nid yw ymgeiswyr sy’n aelodau o staff yn gymwys.
Os oes gennych ymholiadau am Ysgoloriaeth Graddedigion Aber, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn i Ôl-raddedigion (derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk). Sylwer, mae’r cynllun hwn yn destun adolygiad blynyddol.