Cyllid Ddysgir

Cyllid Ddysgir

Cyfleoedd cyllido posibl:

Bwrsariaeth i fyfyrwyr MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol (Llawn a/neu ran amser)

Cynigir 2 fwrsariaeth gwerth £1,000 yr un i ymgeiswyr llwyddiannus i’r MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Bydd disgwyl i ddeiliaid y fwrsariaeth gyfrannu hyd at 45 awr dros y flwyddyn academaidd o fis Hydref hyd at fis Mai i gynorthwyo Tiwtor Sgiliau Iaith y Brifysgol yn ei gwaith/waith. Bydd union natur y gefnogaeth yn dibynnu ar broffil sgiliau’r ymgeiswyr llwyddiannus ond fe fydd cyfleoedd i farchnata’r cynllun ymhlith staff a myfyrwyr y Brifysgol a/neu gefnogi’r tiwtor gyda’r gwaith gweinyddol neu waith dysgu wyneb yn wyneb neu/ac ar lein ac sy’n rhan o’r ddarpariaeth.  

Prif rôl y tiwtor fydd darparu cefnogaeth a hyfforddiant ieithyddol i fyfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru sy’n dymuno bod yn ymgeiswyr ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r tiwtor yn cydweithio gyda thîm staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan gynnwys Tamsin Davies a Sharon Owen, Swyddogion Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg. Fe fydd y tiwtor yn arwain y gwaith, a bydd deiliaid y bwrsariaethau yn gweithio o dan ei h/adain ac mewn ymgynghoriad ag e/hi. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau iaith Gymraeg o safon uchel ar lafar ac yn ysgrifenedig yn ogystal â dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg a phwysigrwydd cyweiriau ac arddulliau iaith wrth gyfathrebu gyda gwahanol gynulleidfaoedd.

Noder isod rhai o ddyletswyddau posibl deiliaid bwrsariaethau:

  • Cynorthwyo i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr un i un neu fesul grŵp a fydd yn ymgeiswyr ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg; 
  • Cynorthwyo i lunio amserlen ar gyfer cyflwyno sesiynau iaith sy’n ddigon hyblyg i gyd-fynd ag amserlenni myfyrwyr sy’n astudio mewn adrannau gwahanol. Gall hyn gynnwys ailadrodd yr un sesiwn fwy nag unwaith.
  • Trefnu ystafelloedd ar gyfer cynnal sesiynau a chadw cofrestrau presenoldeb;
  • Cynorthwyo â’r broses asesu ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith, gan gynnwys asesu gwaith llafar ac ysgrifenedig;
  • Cyfrannu at gynllunio, ysgrifennu, adolygu ac addasu unrhyw ddeunyddiau / adnoddau iaith, gan gynnwys adnoddau ar-lein;
  • Helpu i farchnata’r Dystysgrif Sgiliau Iaith mewn cydweithrediad â staff y Coleg;
  • Cenhadu ar gyfer y dystysgrif a’r modiwl Sgiliau Iaith a Sgiliau Academaidd o fewn i Brifysgol Aberystwyth
  • Cyfrannu at adolygiad a datblygiad darpariaeth y modiwl Sgiliau Iaith a Sgiliau Academaidd

 

Os hoffech drafod ymhellach cyn cyflwyno cais, cysylltwch gyda Dr Anwen Jones, Is Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ar aej@aber.ac.uk. 

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig i’r e-bost uchod erbyn 1af o Fedi 2020. Dylid cyfyngu ceisiadau i uchafswm o 400 o eiriau yn mapio sgiliau’r ymgeisydd yn erbyn unrhyw rhai o’r dyletswyddau uchod ac yn nodi dwy flaenoriaeth gogyfer tri mis cyntaf y fwrsariaeth. 

Grantiau Sefydliad James Pantyfedwen

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau i fyfyrwyr uwchraddedig o Gymru sy’n astudio am radd Meistr neu PhD.  Cynigir y grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig hyd at uchafswm o £5,000.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022-23 yw diwedd Mai 2022. Gellir gweld y canllawiau a'r ffurflenni cais ar wefan James Pantyfedwen ar www.jamespantyfedwen.cymru.

Ysgoloriaethau Meistr yr Wyddfa

Mae Ysgoloriaethau Meistr yr Wyddfa wedi'u cynllunio i nodi a chyflymu unigolion ag anableddau talentog drwy addysg uwch.

Mae'r ysgoloriaethau hyn yn cynnig hyd at uchafswm o £30,000 o gyllid fesul myfyriwr llwyddiannus i'w cefnogi i ymuno â rhaglen Meistr yn y DU.  Gall yr arian gynnwys hyd at £15,000 tuag at ffioedd dysgu Meistr, a lwfans o £15,000 y flwyddyn wrth astudio.

Mae ceisiadau ar agor i fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol.

Ceir rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais (gan gynnwys terfynau amser ymgeisio perthnasol Ysgoloriaeth Meistr yr Wyddfa) yn https://www.disabilityinnovation.com/projects/snowdon-masters-scholarships.

Benthyciadau Uwchraddedig (Cymru)

Bydd modd i fyfyrwyr sy’n dechrau cwrs Meistr uwchraddedig yn 2019 wneud cais am Fenthyciad Uwchraddedig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a weinyddir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Dyma fydd y benthyciad:

 

• gyfraniad tuag at gostau astudio, h.y. disgresiwn y myfyriwr fydd hi i ddefnyddio'r benthyciad tuag at ffioedd, costau cynhaliaeth neu gostau eraill;
• ni fydd yn seiliedig ar brawf modd;
• cael ei dalu'n uniongyrchol i'r myfyriwr.

 

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciad ffioedd dysgu uwchraddedig i fyfyrwyr o Gymru, gweler gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru


 

 

 

 

"Postgraduate Study Loan (SLC)" - Lloegr yn unig

Caiff y Cynllun Benthyciad Uwchraddedig ei gynnal gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciad ffioedd dysgu uwchraddedig i fyfyrwyr o Loegr, gweler y safle gov.uk perthnasol a The Student Room - Postgraduate

 

 

Benthyciadau Uwchraddedig (Yr Alban)

Cyllid Ôl-raddedig - Yr Alban

 

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciad ffioedd dysgu uwchraddedig i fyfyrwyr o’r Alban, gweler Asiantaeth Gwobrau Myfyrwyr yr Alban

 

 

Benthyciadau Uwchraddedig (Gogledd Iwerddon)

Benthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig (Gogledd Iwerddon)

 

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciad ffioedd dysgu uwchraddedig i fyfyrwyr o Ogledd Iwerddon, gweler Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon

 

Ysgoloriaethau'r ESRC

Gall ysgoloriaethau ESRC ariannu rhaglen ymchwil PhD (+3) neu cwrs Meistr Hyfforddiant Ymchwil a rhaglen ymchwil PhD (1+3). Gellir dal ysgoloriaethau o'r fath ar gyfer astudio unai gyda'r Adran Gwleidyddiaeth Rynhwladol neu'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Cysylltwch â adran berthnasol cyn gyted â phosibl.  Detholir myfyrwyr drwy broses gystadleuol. Gall yr ysgoloriaethau hyn dalu am y ffioedd dysgu a thalu lwfans o tua £14,296 y flwyddyn.

Mae Prifysgol Aberystwyth a nifer o brifysgolion eraill yng Nghymru yn ran o Bartneriaeth Hyfforddiant Ymchwil ESRC Cymru

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein Cyfrifiannell Cyllid ac Ysgoloriaethau

Benthyciadau Proffesiynol a Datblgu Gyrfa

Mae Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yn fenthyciad banc masnachol y gallwch ei ddefnyddio i helpu i dalu am ddysgu cysylltiedig â gwaith. Mae Prifysgol Aberystwyth yn Ddarparwr Dysgu Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa cofrestredig (rhif cofrestru 1021).

 

 

Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

Gellir defnyddio’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) i ddarparu cymorth ychwanegol angenrheidiol i fyfyrwyr ag anableddau, gan gynnwys anawsterau dysgu penodol (megis Dyslecsia). Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan mynediad LMA cofrestredig a gall staff roi cyngor ar unrhyw elfen o’r broses. Gweler tudalen Y Ganolfan Asesu i gael rhagor o wybodaeth.