Tiwtorial GraddedigionAber
Mae’ch rhaglen tiwtorialau yn elfen anatod o’ch amser yma ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n eich paratoi am eich dyfodol. Law yn llaw gyda’ch astudiaethau academaidd, diddordebau, gwaith rhan-amser ac unrhyw weithgareddau all-gyrsiol eraill sy’n eich diddori, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu ystod o gyfleoedd amrywiol i’ch ysgogi i ddatblygu sgiliau a galluoedd helaethach. Erbyn i chi raddio, ein bwriad yw y gallwch gyflwyno gyda hyder y cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych i'w cynnig o ganlyniad i'ch profiadau yma yn Aberystwyth.
Wrth ymgymryd â’ch tiwtorialau a chwblhau’ch Rhestr wirio GraddedigionAber byddwch yn datblygu’r sgiliau hynny bydd darpar gyflogwyr yn gofyn amdnaynt. Wrth ddilyn y broses yn effeithiol dewch i adnabod y sgiliau sydd gennych yn barod, dynodi’r sgiliau rydych angen eu datblygu a chodi’ch ymwybyddiaeth o’r holl gyfleoedd fydd ger eich bron i’ch helpu gyda hyn.
Mae Rhestr wirio GraddedigionAber penodol wedi ei lunio i chi at bob blwyddyn o'ch hastudiaethau. Rhydd y dolenni cyswllt ychwanegol a nodir isod wybodaeth bellach i chi ar weithgareddau a chyfleoedd perthnasol gall eich helpu i fagu’r sgiliau penodol.
Darperir cefnogaeth pellach i chi yn eich hadran drwy law sesiynau addysg gyrfaoedd penodol wedi eu teilwra yn arbenig i chi gan gymryd i ystyriaeth eich cwrs, pwnc penodol a’ch blwyddyn presenol. Fe’ch anogir yn gryf i fanteisio ar y sesiynau hyn. Yn ystod y sesiynau fe’ch arwenir drwy’r ffyrdd gwahanol y gallwch eu defnyddio i ddatblygu a chryfhau eich sgiliau. Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei flaen cewch gyfle pellach i drafod eich sgiliau a’ch syniadau gyrfaol gyda’ch tiwtor, ochr yn ochr â’r cefnogaeth a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd twy gydol y flwyddyn yn y sesiynau galw heibio a darpariaeth un-i-un penodol.
Wrth ddysgu sut i adlewyrchu ar eich twf a chymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad personol byddwch mewn sefyllfa ardderchog i fanteisio ar bob cyfle daw ger eich bron yn y dyfodol, beth bynnag y bo. Er enghraifft – astudiaethau pellach, swydd llawn amser, sefydlu busnes/gwaith ymgynghorol eich hun, gweithio’n annibynnol, gwirfoddoli neu cymryd yr amser i deithio a darganfod profiadau newydd.
Rhestrau Wirio ac Esiamplau:
GraddedigionAber Rhestr Wirio Sgiliau Blwyddyn Sylfaen
GraddedigionAber Rhestr Wirio Israddedigion Blwyddyn Sylfaen Esiampl
GraddedigionAber Rhestr Wirio Sgiliau Blwyddyn Gyntaf Israddedig
GraddedigionAber Rhestr Wirio Sgiliau Blwyddyn Gyntaf Israddedig Esiampl
Blwddyn Ganol Israddedig - Esiampl
Blwyddyn Olaf Israddedig - Esiampl
Graddedigion a Addysgir - esiampl
Hoffech ddeall yn well beth yw rhai o'r prif sgiliau hyn sydd mor bwysig i ddarpar gyflogwyr a sut gallech eu datblygu wrth ymwneud ag amrywiol weithgareddau? Yna dilynwch y dolenni cyswllt isod i gael mwy o wybodaeth:
Ystyried / Dadansoddi / Arfarnu Beirniadol, Ystyried Rhesymegol, Llunio Penderfyniadau
Creadigrwydd, Blaengaredd, Metergarwch
Hunan-Reoli, Rheoli Amser, Terfynau Amser, Blaenoriaethu
Technoleg Gwybodaeth, Llythrennedd Digidol
Agwedd Gadarnhaol, Meddylfryd Bositif, Cymhelliad
Tabl Cynllunio:
Tabl Cynllunio GraddedigionAber Blwyddyn 0
Tabl Cynllunio GraddedigionAber Blwyddyn 1
Tabl Cynllunio GraddedigionAber Blwyddyn 2
Tabl Cynllunio GraddedigionAber Blwyddyn 3
Tabl Cynllunio GraddedigionAber Blwyddyn 4
Adnoddau ar gyfer tiwtoriaid:
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn y Broses Tiwtorial