Graddedigion

Graddedigion yn taflu hetiau Cewch barhau i ddefnyddio Gwasanaethau Gyrfaoedd hyd yn oed ar ôl graddio. Pryd bynnag y byddwch yn graddio, rydym yn dal yma i helpu gydag unrhyw anghenion sy'n gysylltiedig â gyrfa sydd gennych, ar unrhyw adeg.

Gwasanaethau ar gael i holl raddedigion Aber

Gwasanaethau ychwanegol i raddedigion Aber diweddar

Holl raddedigion Aber - o unrhyw flwyddyn raddio

Fel myfyriwr sydd wedi graddio yn Aber, bydd gennych fynediad gydol oes i'r gwasanaethau a oedd ar gael i chi pan oeddech yn fyfyriwr, yn bersonol neu ar-lein.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys mynediad i'n porth ar-lein, gyrfaoeddABER, lle byddwch yn dal i allu anfon ymholiadau atom, chwilio am leoliadau, cynlluniau graddedigion a swyddi gwag eraill, archwilio gweithdai gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr, ac archebu apwyntiad gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd.

Er mwyn gallu gwneud defnydd llawn o'r gwasanaethau hyn ar ôl gorffen eich astudiaethau, yn gyntaf bydd angen i chi ddiweddaru eich proffil myfyriwr ar gyrfaoeddABER i broffil graddedigion.

Wrth gwrs, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, gyrfaoedd@aber.ac.uk, neu dros y ffôn, 01970 622378. Neu, os ydych yn yr ardal, galwch heibio i'n gweld ar gampws Penglais yn ein gofod pwrpasol yn Llyfrgell Hugh Owen.

P'un a oes angen i chi gyrchu ein gwasanaethau ai peidio, cadwch mewn cysylltiad, neu dilynwch ni a rhannwch eich diweddariadau gyda ni ar LinkedIn – rydym wrth ein bodd yn clywed sut mae ein cyn-fyfyrwyr yn bwrw ymlaen.

Graddedigion Aber diweddar

Yn ogystal â'r gwasanaethau sydd ar gael i'r holl raddedigion o unrhyw gwrs neu flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i raddedigion diweddar cyrsiau BA, BSc, Meistr Integredig (neu gyfwerth) yn Aber, sydd naill ai'n gweithio ond nid mewn cyflogaeth ar lefel raddedig, neu sy'n ddi-waith ar hyn o bryd. Dyma'r rhain:

1. ABERymlaen

Mae ABERymlaen yn darparu profiad gwaith â thâl lefel mynediad i raddedigion i gefnogi myfyrwyr a graddedigion cymwys Aber sy'n teimlo nad oes ganddynt y sgiliau na'r parodrwydd gwaith eto i symud yn llwyddiannus i yrfa i raddedigion; gall hyn fod oherwydd profiad gwaith cyfyngedig hyd yn hyn, er enghraifft, teimlo'n ansicr am ddiddordebau gyrfa, neu ddiffyg hyder.

Mae lleoliadau yn adrannau Prifysgol ac fel arfer yn digwydd rhwng mis Medi a mis Gorffennaf bob blwyddyn academaidd, yn llawn amser neu'n rhan-amser. Mae cynllun lleoliad 'bloc' llawn amser hefyd yn cael ei gynnig i raddedigion yn unig, boed yn byw yn lleol neu'n dychwelyd i Aber i ymgymryd â'r lleoliad. Mae'r cynllun hwn yn ddelfrydol os nad ydych eto wedi sicrhau cyflogaeth i raddedigion ers i'ch astudiaethau ddod i ben ac yr hoffech roi hwb i'ch CV, rhannu profiadau ac adeiladu eich sgiliau a'ch hyder fel rhan o raglen grŵp gyda graddedigion eraill.

Ewch i dudalen we ABERymlaen i ddarganfod mwy.

2. Cymorth i Raddedigion

Mae ein Cynghorwyr ar gael i ddarparu cymorth gyrfaoedd, gwybodaeth ac arweiniad sydd wedi'u cynllunio i helpu graddedigion diweddar i symud ymlaen yn hyderus i gyflogaeth i raddedigion. I gael gwybod mwy am y gefnogaeth bwrpasol hon, e-bostiwch gradsupport@aber.ac.uk.