Gymorth i Baratoi am Yrfa

Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa (CBY) yn lefel ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau o ran dod o hyd i gyflogaeth ar lefel raddedig yn y dyfodol.

Mae wedi'i anelu'n benodol at unigolion sy'n teimlo'n ansicr am y dyfodol, efallai oherwydd diffyg hyder, diffyg profiad gwaith perthnasol, neu nad oes ganddynt rwydweithiau a chysylltiadau a all helpu.

Beth mae'n ei olygu?

Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa yn rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu sgiliau, gweithdai a hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd ag unigolion o amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau drwy sesiynau Cwrdd â'r Gweithiwr Proffesiynol. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i hysbysebu cyfleoedd profiad gwaith y maent wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer myfyrwyr CBY.

Pwy fydd yn cael cymryd rhan?

Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa ar gael i fyfyrwyr o'r ail flwyddyn ymlaen sydd:

  • Yn anabl (er enghraifft, â nam ar eu clyw, nam corfforol neu nam ar eu golwg neu gyflwr datblygiad)
  • Â chyflwr iechyd meddwl (er enghraifft, gorbryder, anhwylder deubegynol, iselder, anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), sgitsoffrenia)
  • Yn niwrowahanol (er enghraifft, awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, anhwylder gorfywiogrwydd diffyg sylw (ADHD))
  • Â chyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio (er enghraifft, canser, HIV, diabetes, clefyd cronig y galon, epilepsi)
  • Yn dod o deulu incwm isel (aelwydydd sy'n ennill llai na £18,840 y flwyddyn)
  • Y cyntaf yn eu teulu i fynd i'r brifysgol
  • Yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Yn Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Yn Ddu neu Du Prydeinig
  • Ag Ethnigrwydd Cymysg
  • Yn dod o Grŵp Ethnig arall

 

  • Yn Fyfyriwr Aeddfed
  • Â phrofiad o fod mewn gofal
  • Â chyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys cyfrifoldebau rhiant
  • Wedi dieithrio oddi wrth eu teulu
  • Yn arddel hunaniaeth LGBTQ+
  • Yn dod o gefndir Sipsiwn, Roma neu Deithiwr
  • Yn ffoadur neu'n geisiwr lloches
  • Yn dod o leiafrif crefyddol
  • Yn gyn-filwr
  • Wedi’u magu gan aelod o'r teulu yn y lluoedd arfog
  • Yn dod o ardal lle nad oes llawer o bobl yn mynd ymlaen i addysg uwch
  • Yn dod o "ardal o amddifadedd" yng Nghymru

 

Os ydych chi'n perthyn i unrhyw un o'r uchod, cliciwch yma i weld a allwch chi gael mynediad at Gymorth i Baratoi am Yrfa.

(Os oes angen cymorth arnoch i lenwi ein ffurflen ar-lein neu os oes angen ffordd arall arnoch i ystyried cofrestru, anfonwch e-bost atom drwy crsupport@aber.ac.uk.)

Profiad rhywun o gymryd rhan

Dyma enghraifft o daith un cyfranogwr CBY:

Cyfranogwr CBY yn gwisgo crys coch

Roedd SOS, myfyriwr ysgrifennu creadigol uwchraddedig anneuaidd, niwroamrywiol, aeddfed ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn wynebu rhwystrau cyflogadwyedd oherwydd diffyg profiad gwaith a chysylltiadau rhwydweithio. Fe wnaethant hefyd ymgodymu â stigma mewnol am eu cyflwr iechyd meddwl, gan ofni gwahaniaethu posibl gan gyflogwyr.

O fis Mawrth 2023, cymerodd SOS ran mewn 30 sesiwn un-i-un gyda'r tîm yn eu prifysgol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu CV, cymorth i wneud ceisiadau, a gwella sgiliau. Roedd y gweithdai a fynychwyd yn cynnwys "Datblygu Meddylfryd i ganolbwyntio ar Dwf," "Amrywioldeb a Chyflogadwyedd," a "Niwroamrywiaeth mewn Busnes."

Arweiniodd cyfranogiad SOS yn y rhaglen at leoliad ABERYmlaen gyda thîm Hygyrchedd a Chynhwysiant y brifysgol. Ysbrydolodd y profiad hwn, ynghyd â chefnogaeth y tîm Cymorth i Baratoi am Yrfa yn y brifysgol, SOS i wneud cais am swydd barhaol yn yr un adran, gan dynnu sylw at effaith drawsnewidiol y rhaglen.

"Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa wedi bod yn amhrisiadwy. Mae cymorth fy Ymgynghorydd i sicrhau lleoliadau a chyflogaeth raddedig, ynghyd â chymorth CV a LinkedIn, wedi bod yn allweddol."