Aflonyddwch a Chamymddwyn Rhywiol – Atal a Chefnogi

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd campws diogel a chefnogol i bob aelod o'n cymuned. P'un a ydych wedi profi aflonyddu rhywiol neu drais rhywiol eich hun, neu’n cefnogi rhywun sydd wedi’u profi nhw, fe welwch chi wybodaeth yma am opsiynau cymorth, opsiynau ynglŷn â rhoi gwybod, a ble i fynd i gael rhagor o gyngor.

Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau ar gyfer goroeswyr, a chanllawiau i'r rhai sy'n cefnogi ffrind sydd wedi goroesi.

Gallwch roi gwybod am bethau drwy gysylltu â'n tîm Cymorth Aflonyddwch a Chamymddwyn Rhywiol trwy’r ebost neu drwy fynd i'n system Adrodd ar-lein Adrodd a Chymorth lle gallwch roi eich manylion neu rannu’r hyn sydd wedi digwydd gyda ni’n ddienw.

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl, ffoniwch 01970 622649 ar gyfer adran Ddiogelwch y Brifysgol, neu 999 ar gyfer y Gwasanaethau Brys.