Adborth RhWN - Undeb y Myfyrwyr
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2403-7754816 - Siaced 'Fleece' Prifysgol
Dy sylw: can we get university fleeces like what Bangor have please :)
Ein hymateb:
Diolch ichi am eich awgrym. Os yw siaced ‘fleece’ yn opsiwn gyda darparwr citiau ein clybiau a'n cymdeithasau, Surridge Sport, mae hwn yn opsiwn y gallem ystyried ei gael yn y dyfodol
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2312-1502604 - E-byst Staff Undeb y Myfyrwyr
Dy sylw: I'm aware the SU is a separate organization but SU staff accounts names should end with something like the (Staff) that all university staff get. For example, currently all emails that arrive from a university staff member have the person's name + (Staff) appended onto it. SU staff should have something similar (i.e: Union or SU)
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich adborth i'r Gwasanaethau Gwybodaeth drwy Rho Wybod Nawr. Mae Undeb y Myfyrwyr bellach wedi cytuno i ychwanegu UM/SU fel ôl-ddodiad i e-byst staff yr Undeb Myfyrwyr. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith.Diolch unwaith eto am eich awgrym -
CYF: 66-2311-9296915 - Problemau gyda chyfrifon myfyrwyr
Dy sylw: I'm not writing this to complain at all about the SU I just wanted to suggest if maybe another team such as the reception team (who are really friendly by the way!) be able to fix our student accounts on the website. They always tell us they've forwarded it to Comms but they're really busy which is understandable! I just thought it would be great for the receptionists to be able to fix it just by emailing them or going to reception directly. There's so much income the SU is missing out on due to the account not matched problems everyone is having.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth.Mae tîm cyfathrebu'r Undeb Myfyrwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'n darparwyr gwefan a thîm Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol ar unrhyw wallau mewngofnodi sydd angen cymorth pellach.Er y byddai eich awgrym yn ddefnyddiol, yn anffodus, ni allwn roi caniatâd gweinyddwr ar gyfer y wefan i'r aelodau staff yn y dderbynfa sy’n fyfyrwyr, gan y byddai hynny’n golygu rhannu mynediad at sgriniau data myfyrwyr, ac mae hynny’n mynd yn groes i reolau GDPR.Os oes unrhyw fyfyriwr yn dal i gael problemau, cysylltwch â union.marketing@aber.ac.uk. -
CYF: 66-2310-4419011 - Bargeinion Bar yr Undeb wedi dychwelyd
Dy sylw: Why have the SU bar removed their drink deals? They used to have good steins deals on a Wednesday which is why our club would come here to start a social, but we may as well just start in town now. Please bring back the deals, we're students - we love deals, an SU bar is meant to be a cheap fun place with loads of deals, not somewhere expensive and fancy. This puts me and my friends off coming .
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynghylch cynigion y bar yn Undeb y Myfyrwyr
Rydym wedi ystyried eich sylwadau ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cytundeb Steins yn dychwelyd ar unwaith – byddwn hefyd yn edrych ar fargeinion diodydd eraill y gallwn eu cynnig ac felly gwyliwch y gofod hwn ac ymweld â bar yr Undeb i weld mwy!
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2304-6336627 - Mwy o Fysiau Undeb y Myfyrwyr
Dy sylw: The SU minibuses are great but I think they should invest in at least a couple more with maybe an automatic one and one with similar requirements to the 9 seater. Given that most activities take place outside of Aber it would really help a lot.
Ein hymateb:
Prynhawn da. Diolch am eich adborth. Rydym yn hynod falch eich bod yn gweld bysiau mini Undeb y Myfyrwyr yn ddefnyddiol ar gyfer eich gweithgareddau. Mae’r bysiau mini wedi bod yn arbennig o boblogaidd eleni ymysg grwpiau myfyrwyr a grwpiau cymunedol. Mae’r galw wedi bod yn uwch nag erioed, sydd wedi golygu bod nifer o achosion o grwpiau yn methu eu benthyg ar adegau prysur yn anffodus (e.e. yn ystod y penwythnos). Byddwn yn adolygu ein prosesau ar gyfer bysiau mini cyn bo hir a bydd eich sylw yn rhan o’r ystyriaeth. Yn anffodus mae’r cerbydau yn gofyn llawer o arian ac amser i’w rhedeg ac felly mae llawer i’w ystyried o ran cyllidebu ac ati.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill neu adborth arall, mae pob croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r tîm cyfleoedd.
22/23 Semester 1
-
CYF: 66-2212-7103609 - Cystadlu yn Superteams
Dy sylw: For Superteams because it's so popular would it be possible to make the allocations a bit fairer? One suggestion would be to limit all clubs/socs to one team for the mens and one team for the womens, then open it up to having multiple teams per club/soc after a couple of hours or days? This way it would ensure more clubs/socs could have teams participating, thus making it more fun, rather than some clubs having 4 teams while others are unable to get a single team despite logging on for when registration opened. Thank you!
Ein hymateb:
Rydyn ni wedi ystyried sawl ffordd dros y blynyddoedd i geisio gwneud cystadlu yn Superteams yn decach, ond rydyn ni’n credu mai’r opsiwn tecaf yw lwc llwyr fod eich enw yn cael ei ddewis wrth gofrestru ar-lein. Mae’n ddigwyddiad hynod o boblogaidd ac oherwydd hyn rydym yn llwyr werthfawrogi na fydd pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan, a gall fod yn rhwystredig os yw'n edrych fel petai rhai grwpiau o fyfyrwyr wedi cael mwy o dimau nag eraill. Fodd bynnag, mae Superteams yn ddigwyddiad i'r corff myfyrwyr cyfan ac nid yn ddigwyddiad penodol i glybiau a chymdeithasau, felly pe baem yn cyfyngu ar geisiadau yn ôl y clwb neu gymdeithas maent yn rhan ohonynt, byddai’n golygu ein bod yn mynd â'r cyfle i allu cystadlu oddi ar rai myfyrwyr (nad ydynt yn rhan o grwpiau myfyrwyr). Gallai grwpiau myfyrwyr sydd yn ffodus o allu cael mwy nag un tîm yn y pen draw ymuno fel grŵp o ffrindiau ac nid dan enw eu clwb/cymdeithas a byddai’n amhosibl rheoli hynny.
Rhaid cofio hefyd fod gennym dros 120 o glybiau a chymdeithasau a dim ond lle ar gyfer 28 o dimau merched a 28 tîm dynion, felly byddai cynnig tîm fesul clwb neu gymdeithas yn anymarferol oherwydd petai pob clwb/cymdeithas yn cofrestru ni fyddai gennym le i bob un. Mae'n ddrwg gennym glywed nad oeddech wedi gallu cael tîm i gystadlu. Pe gallem ei wneud yn fwy o faint o ran logisteg byddem yn sicr yn gwneud hynny! Os hoffech gymryd rhan yn y digwyddiad drwy ffyrdd eraill, rydym yn chwilio am fyfyrwyr i wirfoddoli i helpu yn y digwyddiad. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â'n Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr ar suopportunities@aber.ac.uk.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2205-2142929 - Gwisg staff UyM
Dy sylw: I think it would be great if the SU photographers wore either uniform, or just hoodies, so that they were recognisable at events, as sometimes its hard telling if they are doing photos on behalf of the SU or are just random people taking photos.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw.
Syniad gwych! Fe edrychwn ar drefnu dillad llachar UM iddynt yn y dyfodol.
-
CYF:66-2203-6149617 - Swyddog y Dynion
Dy sylw: I was voting in the SU elections for volunteering officers and after voting for the Women's officer I thought that it might be prudent to have a similar role, the Men's officer. Just as the Women's officer role exists so that women can talk about the issues of concerns they have that they might not be comfortable talking about with a man, there should be an officer allowing men to talk about issues they might not be comfortable discussing with women. Whether it be mental or physical, both genders face experiences unique to them which they may not feel comfortable discussing around friends or family, and as such, there should always be someone to accommodate that role, allowing them to open up.
Ein hymateb:
Awgrymaf eich bod yn cyflwyno eich syniad am Swyddog Dynion yma: https://www.abersu.co.uk/changeaber/yourideas/
Diolch am eich sylw
-
CYF:66-2202-6229007 - Chwaraeon yn UyM
Dy sylw: Having the 6 nations on in the SU is so good, I love watching live sport with a pint and the prices are much cheaper in the SU so I find myself being more likely to come here. I wish there was other sports such as football too as I'm a big fan of Liverpool and seeing them on a big screen is better than a TV in a pub, also a pizza and a pint is a great deal. Living on campus too with no TV in my accom it's better and I don't have to walk down the hill either
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth am ddangos chwaraeon byw yn Undeb y Myfyrwyr. Roedd cost cael Sky Sports neu BT sports yn y bar yn hanesyddol yn ddrud iawn, ond fe wnawn ni edrych eto
-
CYF:66-2201-733309 - Ailgylchu pecynnau creision
Dy sylw: Would it be possible to have a crisp packet recycling point in the SU building? The nearest one according to the Walkers crisp packet recycling scheme is the other side of Bow Street, so having one on campus would encourage people to recycle more which is better for the planet than the packets ending up in landfill.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu – mae gennym ni bwynt ailgylchu pecynnau creision yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr felly os hoffech chi ollwng unrhyw becynnau yno bydd ein tîm gwirfoddoli gwyrdd yn sicrhau y cânt eu hailgylchu’n effeithiol.
Semester 1 21/22
-
CYF:66-2112-4084505 - Cyrsiau iechyd a diogelwch
Dy sylw: Thank you to all of you at then su so much for organising the health and safety courses over the past few days, I've attended two sessions and they've both been excellent, and again thanks to Paul at Red Turtle training for doing them so brilliantly, he's been an excellent instructor, it's been very helpful, and also it's great to have these available to students at a discount and on campus.
Ein hymateb:
Diolch am yr adborth cadarnhaol ar ein darpariaeth cwrs iechyd a diogelwch. Rydym ni bob amser yn edrych am gyfleoedd i gefnogi ein myfyrwyr i feithrin eu sgiliau a’u profiadau ac mae’n wych gwybod bod y rhain yn ddefnyddiol i chi!
-
CYF:66-2111-909227 - Dangos chwaraeon yn Undeb y Myfyrwyr
Dy sylw: I think the SU should play sports games such as football or rugby on the big screen. I know the football teams would deffo come watch! The alcohol is much cheaper here so definitely think that would attract people. Also, please can you play the 6 nations games?! I love the student atmosphere and would feel comfortable drinking and watching here!
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynglŷn â dangos chwaraeon ym mar Undeb y Myfyrwyr. Byddwn yn dangos gemau'r 6 gwlad fel arfer gan eu bod ar deledu daearol - nid ydym yn tanysgrifio i Sky na BT ar hyn o bryd felly nid yw'n bosib i ni ddangos y pêl-droed na chwaraeon eraill.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2104-7552215 - Diolch UyM
Dy sylw: The SU team have been absolutely awesome throughout this whole COVID nightmare. The officers have really worked as a team and all staff have been approachable and very obviously working for the good of all students. I have heard positive comments form locals and the SU's efforts this year have been noticed in town. Just a shame we couldn't vote for them in the Aber celebrates awards as they deserve it.
Ein hymateb:
Diolch o galon am eich sylwadau calonogol, byddwn yn eu rhannu nhw â gweddill y tîm.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2011-9682027 - Astudio yn adeilad UyM
Dy sylw: because of covid restrictions, i find it really hard to get a space in the library to study, meaning i have to use the su to study as i live in penparcau and cant really leave the uni between lectures. today while i was trying to study, the music in the cafe was excessively loud so i went and politely asked the bar staff to turn it down a bit, their response was to turn it down for a min then turn it back up even louder. during this pandemic, doing uni work and research is hard enough without these kinds of incidents.
Ein hymateb:
Rydym yn ymddiheuro am y profiad a gawsoch. Rwyf wedi siarad â rheolwr bar Undeb y Myfyrwyr a'r aelod staff dan sylw a chytunwyd i ymateb i unrhyw geisiadau yn y dyfodol i droi sŵn y gerddoriaeth i lawr.
-
CYF:66-2011-5192327 - Cyfleusterau yn UyM
Dy sylw: I came to this university 5 years ago, all but different circumstances economically I agree, and with COVID as well, but having said that I have visited multiple universities up and down the country, universities with less student numbers than us and what they offer is just head and shoulders above what our SU provides. I don’t know a single university SU in this country that doesn’t show live football on Sky and BT, a massive draw for all manners of students, even in difficult times the SU closing times outside of lockdown and rules (10pm) are shocking. It seems there has been no innovation at all from the SU other than £2 for 2 pints, any SU has offers like that and not just for a promotional period to get rid of dating stock but all the time. Cheap drinks need to stay. The SU practically has no social media presence at all, other than the President posting occasionally, usually not actually regarding the SU. The food quality is inconsistent and lacking any USP’s. the events at the SU regardless of COVID have been getting less and less. The money that needs pumping into the SU to turn it back into a place to come to and not a derelict looking hotspot for 5 people to play pool a night. The SU needs expanding, the large function room needs to be a space used all the time with ping pong tables and good music, invest in quality things like a better juke box system, people won’t come if the quality is poor. My best example of the SU being tight is getting rid of the best seller strong bow dark fruits and introducing magners dark fruits because it’s cheaper per unit. Come on SU you could compete with other establishments in town, you have the space and the draw but because of the lack of funding, imagination and want from who ever is In charge has turned the place into a clear dump!!
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich adborth. Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau ac rwy'n gobeithio mynd i'r afael â nhw isod:
- Yn amlwg mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar yr hyn y gallwn ac na allwn ei wneud eleni. Yn y bôn, mae digwyddiadau wedi'u gwahardd ar hyn o bryd - roedd gennym raglen wych wedi'i chynllunio ar gyfer Wythnos y Glas 2020 a thu hwnt ond roedd yn rhaid gosod y rhaglen honno o’r neilltu o ganlyniad i gyfyngiadau Llywodraeth Cymru, a chynnal rhaglen ar-lein yn ei lle. Nid ydym yn rhagweld y bydd hynny'n newid yn ystod y flwyddyn academaidd hon ond byddwn yn adolygu ein darpariaeth digwyddiadau unwaith y bydd pethau'n dod yn gliriach.
- Mae yna gynlluniau i fuddsoddi yn adeilad a gofodau’r UM gyda gwaith adnewyddu sylweddol - rwyf wedi copïo Prif Weithredwr UM i roi sylwadau pellach am hyn
- O ran prisiau, rydym wedi gwrando ar adborth ac wedi cyflwyno cynigion prisio mewn ymateb i hynny. Ar gyfer mis Ionawr rydym yn bwriadu cael cyfres o gynigion diodydd 'Croeso'n ôl'
- Byddwn yn edrych eto ar Sky TV yn 2021 ond ar hyn o bryd gyda chapasiti cyfyngedig iawn bar UM, nid yw'n ymarferol ac ni all grwpiau mawr ymgynnull i'w fwynhau
- Rwy’n synnu at eich sylwadau am y cynnig bwyd gan nad yw hyn yn gyson â’r adborth cyffredinol sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn
- Mae clybiau a chymdeithasau’r myfyrwyr yn defnyddio’r brif ystafell ddigwyddiadau i gwrdd ar gyfer eu gweithgareddau ac o'r herwydd ni allwn ei defnyddio at y dibenion y gwnaethoch eu hawgrymu drwy’r amser yn anffodus
-
CYF:66-2011-3292112 - Anifeiliaid therapi
Dy sylw: You should get an animal room or rooms where students can go to play with animals and you could get therapy dogs or just general animals like hamsters, Rabbits, Guinea pigs etc. Where students could relieve stress and improve their mental well-being, and students could volunteer to clean them out and luck after them ( I'd happily do both), please can this be set up because of no animals being allowed in accommodation and all the stress related to exams and the pandemic and just life
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth, mae'n bleser gen i ddweud bod Undeb y Myfyrwyr yn draddodiadol yn trefnu diwrnodau tawel gyda chŵn bob blwyddyn yn rhan o gyfnodau allweddol megis y cyfnod cyn yr arholiadau mewn partneriaeth â Guide Dogs Cymru. Rydym hefyd wedi ystyried anifeiliaid eraill yn y gorffennol, megis cathod neu’r anifeiliaid a awgrymwyd, ond yn anffodus mae ein lleoliad rhanbarthol wedi ei gwneud hi'n anodd trefnu digwyddiadau o'r fath er ein bod yn y broses o ddatblygu perthynas waith gyda Dyfi Donkeys ger Machynlleth. Yn anffodus, yn unol â chyfyngiadau'r llywodraeth ac yn rhannol i amddiffyn gwirfoddolwyr o sefydliadau o'r fath a allai fod yn y categori hynod fregus o ran Covid, ni allwn drefnu digwyddiadau o'r fath ar hyn o bryd, ond efallai y bydd modd i ni drefnu rhywbeth yn fuan. Hyrwyddir ein digwyddiadau drwy ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol a’r e-bost wythnosol yn ystod y tymor a anfonir at bob myfyriwr felly cadwch eich llygaid ar agor.
-
CYF:66-2010-7396607 - Cyrraedd Llanbadarn
Dy sylw: I'd like to ask if there's any chance that there could be a shuttle going from the town to the Llanbadarn campus since my seminar takes place there. Of course, if I would be the only one going there from town, I'd deal with going on foot
Ein hymateb:
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 301 o'r dref i Lanbadarn neu ddewis y gwasanaeth 03 i'r campws ac yna'r bws gwennol am ddim, ond mae'r ddau yn wasanaethau bysiau cyhoeddus ac felly'n codi £1.20 y siwrnai oni bai eich bod wedi dewis prynu tocyn bws gan yr undeb.
19/20 Semester 2
-
CYF:66-2003-6706212 - Cyfleoedd cymdeithasu ar gyfer myfyrwyr hŷn
Dy sylw: I'm not really sure who to present this to but I wanted to share my experience as a first year mature student (over 40). It's lonely! I am surrounded by groups of youngsters who know each other well and have very different priorities to me. I live off campus and am not interested in joining the groups and societies, or if I am interested I am unable to because of childcare. There is no mature student society anyway and I have considered starting one but again... Time! Were you able to wave a magic wand, what I would love is a 'mature student lounge' - a space where anyone is welcome but would perhaps only appeal to those of us who appreciate the quiet.. People who understand about juggling kids/mortgages with going back to school. Comfy chairs where you are just as likely to nap as read (and can snore without judgement) because you've been up since 5 for a reason other than alcohol. Discussions with people who are passionate and obsessed with their study. Please do not read this as a complaint against the typical student, rather a gap in the market for those of us who don't fit into the mould. I'm sure there are many ways to make my experiences here more sociable and I am working independently towards that, I just thought in the meantime it might be helpful to know how I feel (although I could be the only one!)
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth, mae eich sylwadau yn ddefnyddiol ac yn cael eu croesawu. Rwy'n derbyn ac yn deall eich sylwadau ynghylch cymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr. Yn anffodus mae Myfyrwyr Hŷn a Myfyrwyr sy’n Rhieni yn ddwy enghraifft o grwpiau sydd wedi bod yn heriol i'w cynnal. Rydym wedi cael unigolion sy'n barod i arwain y grwpiau hyn ond mae argaeledd ac amser yn aml yn gydbwysedd anodd, ac o ganlyniad rydym wedi ceisio dod o hyd i grwpiau o fyfyrwyr yn hytrach na dibynnu ar un person i gychwyn a sbarduno diddordeb, ond hefyd i ddenu myfyrwyr eraill o'r fath, sy’n gallu bod yn anodd. Rydym yn parhau i annog myfyrwyr sydd â diddordeb i ddod ymlaen, a byddwn yn gweithio gyda'r myfyrwyr hynny gymaint â phosibl i ddechrau a chynnal grŵp - i annog hyn rydym yn trefnu sesiynau cwrdd a chyfarch ambell waith yn ystod y flwyddyn i ddod â myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn fyfyrwyr hŷn neu’n fyfyrwyr sy’n rhieni ynghyd i drefnu ymhlith ei gilydd, gyda chefnogaeth. O ran gofod penodol, rydym wedi ychwanegu seddi ychwanegol yn y Picturehouse yn Undeb y Myfyrwyr yn ddiweddar, a ddyluniwyd i fod yn ofod mwy cartrefol i fyfyrwyr, ac rydym wedi gweld gwahanol fathau o fyfyrwyr nag a welir mewn lleoedd eraill yn manteisio ar hyn, yn enwedig myfyrwyr hŷn ac uwchraddedig. O ran gofod penodol, byddai'n ddiddorol gwybod a yw hyn yn rhywbeth yr hoffai myfyrwyr eraill mewn amgylchiadau tebyg ei gael, nid yw'n rhywbeth sydd wedi cael ei awgrymu o’r blaen hyd y gwn i, ond byddaf yn adrodd yn ôl i’r swyddogion perthnasol er mwyn iddynt ystyried y peth a chasglu rhagor o adborth.
-
CYF:66-1911-2336221 - Hygyrchedd yn UyM
Dy sylw: I would like to ask if you could fix the majority of doors around the student union etc. Being disabled, I find the doors very very heavy and quite a few of the buttons to open the doors inside and out are not working. Thank you
Ein hymateb:
Mae Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn poeni am hygyrchedd ein hadeilad ers cryn amser a phob blwyddyn mae'r Brifysgol wedi neilltuo arian i ddatblygu prif ddrysau ffrynt yr adeilad, ond yn anffodus bob blwyddyn dywedir wrthym nad yw'r arian hwn wedi bod ar gael ar yr adeg y mae’r prosiect wedi bod yn ymarferol i'w gyflawni o ran gwaith ystadau. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd sy'n archwilio i adnewyddu / datblygu adeilad Undeb y Myfyrwyr a'r amserlen bosibl ar gyfer y gwaith hwn ac roedd gwerth unrhyw waith ailosod drws yn golygu bod y cynlluniau ar gyfer drysau newydd wedi'u gohirio eto. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hygyrchedd drws ffrynt fel blaenoriaeth ond byddem hefyd yn awyddus i glywed am unrhyw ddrysau eraill sydd wedi bod yn broblem i chi fel y gallem ystyried y rheini ymhellach hefyd.
19/20 Semester 1
-
CYF:66-1903-6469318 - Ystafell chwaraeon yn UyM
Dy sylw: Hi there, I really think the SU should be open 24/7, not necessarily the bar etc. But as a space to hang out and play pool at all hours. Or you should create a games room, just pool tables is a bit boring and it would be nice to have foosball, air hockey and other games, in a room open 24/7 for students to use. There's not much to do in the town centre let alone on campus and I think the uni would really benefit from a games room/open hours 24/7 in the students Union. Table tennis would also be another one of my ideas for things to be included in this proposal!
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich sylw am agor yr UM 24 awr y dydd. Oherwydd natur adeilad yr UM, byddai'n rhaid ei staffio i ganiatáu mynediad 24/7, ac ni ellir cyfiawnhau hyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai bod lleoedd ar y campws sy'n fwy addas i hyn y gellid mynd iddynt gyda chardiau adnabod myfyrwyr Aber, ac felly ni fyddai angen eu staffio. Fe wnawn ymchwilio i hyn.