CYF:66-2003-6706212 - Cyfleoedd cymdeithasu ar gyfer myfyrwyr hŷn

Dy sylw: I'm not really sure who to present this to but I wanted to share my experience as a first year mature student (over 40). It's lonely! I am surrounded by groups of youngsters who know each other well and have very different priorities to me. I live off campus and am not interested in joining the groups and societies, or if I am interested I am unable to because of childcare. There is no mature student society anyway and I have considered starting one but again... Time! Were you able to wave a magic wand, what I would love is a 'mature student lounge' - a space where anyone is welcome but would perhaps only appeal to those of us who appreciate the quiet.. People who understand about juggling kids/mortgages with going back to school. Comfy chairs where you are just as likely to nap as read (and can snore without judgement) because you've been up since 5 for a reason other than alcohol. Discussions with people who are passionate and obsessed with their study. Please do not read this as a complaint against the typical student, rather a gap in the market for those of us who don't fit into the mould. I'm sure there are many ways to make my experiences here more sociable and I am working independently towards that, I just thought in the meantime it might be helpful to know how I feel (although I could be the only one!) 

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth, mae eich sylwadau yn ddefnyddiol ac yn cael eu croesawu. Rwy'n derbyn ac yn deall eich sylwadau ynghylch cymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr. Yn anffodus mae Myfyrwyr Hŷn a Myfyrwyr sy’n Rhieni yn ddwy enghraifft o grwpiau sydd wedi bod yn heriol i'w cynnal. Rydym wedi cael unigolion sy'n barod i arwain y grwpiau hyn ond mae argaeledd ac amser yn aml yn gydbwysedd anodd, ac o ganlyniad rydym wedi ceisio dod o hyd i grwpiau o fyfyrwyr yn hytrach na dibynnu ar un person i gychwyn a sbarduno diddordeb, ond hefyd i ddenu myfyrwyr eraill o'r fath, sy’n gallu bod yn anodd. Rydym yn parhau i annog myfyrwyr sydd â diddordeb i ddod ymlaen, a byddwn yn gweithio gyda'r myfyrwyr hynny gymaint â phosibl i ddechrau a chynnal grŵp - i annog hyn rydym yn trefnu sesiynau cwrdd a chyfarch ambell waith yn ystod y flwyddyn i ddod â myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn fyfyrwyr hŷn neu’n fyfyrwyr sy’n rhieni ynghyd i drefnu ymhlith ei gilydd, gyda chefnogaeth. O ran gofod penodol, rydym wedi ychwanegu seddi ychwanegol yn y Picturehouse yn Undeb y Myfyrwyr yn ddiweddar, a ddyluniwyd i fod yn ofod mwy cartrefol i fyfyrwyr, ac rydym wedi gweld gwahanol fathau o fyfyrwyr nag a welir mewn lleoedd eraill yn manteisio ar hyn, yn enwedig myfyrwyr hŷn ac uwchraddedig. O ran gofod penodol, byddai'n ddiddorol gwybod a yw hyn yn rhywbeth yr hoffai myfyrwyr eraill mewn amgylchiadau tebyg ei gael, nid yw'n rhywbeth sydd wedi cael ei awgrymu o’r blaen hyd y gwn i, ond byddaf yn adrodd yn ôl i’r swyddogion perthnasol er mwyn iddynt ystyried y peth a chasglu rhagor o adborth.