CYF: 66-2501-5037827 - Dim Tâl ar gyfer Cymdeithasau
Dy sylw: Please make societies free like at Bangor University
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr. Yn debyg i’r mwyafrif helaeth o sefydliadau AU, yn Aberystwyth, credwn ei bod yn bwysig i'n clybiau a'n cymdeithasau a arweinir gan fyfyrwyr gael ymreolaeth dros eu cyllid eu hunain, mae hyn yn cynnwys gosod eu pris aelodaeth eu hunain. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod llawer o'n cymdeithasau yn dewis bod yn ddi-dâl; mae'n dibynnu'n llwyr ar natur y grŵp a pha mor ddrud ydyw i’w redeg. Mae Undeb Aber yn darparu grantiau Tymhorol i glybiau a chymdeithasau i helpu i gyfrannu at eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, ond mae codi tâl aelodaeth a chael noddwyr allanol yn helpu i hybu eu cyllid er mwyn sicrhau y gallant roi amrywiaeth o gyfleoedd i'w haelodau ymgysylltu. Os hoffech drafod hyn yn fwy manwl, mae croeso i chi alw heibio’r Swyddfa Cyfleoedd Myfyrwyr yn yr Undeb, neu cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr etholedig ar actstaff@aber.ac.uk