Adborth RhWN - Ysgol Fusnes Aberystwyth
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2101-6294125 - Amserlennu
Dy sylw: I would like to address the timetabling, although it is good to have timetabled in-person teaching students do not know when to do the pre-recorded blackboard content. i feel that it may be beneficial for our timetable to include two or three hour study periods a day to create a mindset for the building blocks of our day as this would create a more scheduled pattern and create a metal mind set as not having these timetable is creating large amounts of anxiety.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu â Rho Wybod Nawr.
Ein gobaith yw bod ein myfyrwyr yn ddysgwyr annibynnol. Hefyd, fel y soniwyd yn e-bost y Pennaeth Adran ar yr 20fed o Ionawr, anogir myfyrwyr yn gryf “i ymroi’n llawn i’r sesiynau tiwtora drwy fod yn bresennol ymhob sesiwn a gynhelir ar eu cyfer. Ceir tystiolaeth sylweddol sy’n dangos bod cysylltiad cadarnhaol cryf rhwng myfyrwyr yn ymroi’n gadarnhaol i’w dysgu a’u perfformiad ar eu cyrsiau. Felly, achubwch ar bob cyfle i fod yn bresennol ac i ymroi’n llawn i’r gweithgareddau a drefnwyd gan eich tiwtoriaid. Hefyd, i’ch cynorthwyo yn yr amserau anodd hyn, fe’ch cynghorir i ddatblygu cynllun a strwythur ar gyfer eich wythnosau gwaith.“
Mae ein Huned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi darparu cyngor defnyddiol ar y tudalennau gwe canlynol:
Quick Guide to Student Success
Yn ogystal â hynny, gofynnwyd i gydlynwyr cynlluniau gradd sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â threfnu eu hastudiaethau eu hunain a chreu “blociau astudio” annibynnol. Dylai pob blwyddyn hefyd gael y dolenni hyn a’u trafod yn eu sesiynau cyntaf yr wythnos hon.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â Chydlynydd eich Cynllun Gradd neu â’ch Tiwtor Personol.
-
CYF:66-2102-7467322 - Cymryd rhan mewn sesiynau ar-lein
Dy sylw: since Christmas i have noticed that other students have been contributing less in online sessions, i feel like it unfair as i contribute as much as i can be i don't want to be relied on to contribute all the time and it does not help that students are not interacting with the blackboard content which sometimes slows down the teaching. also, i feel that some modules in live sessions they just talk at us instaed of creating discussion as we should of already watched the blackboard content
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwad. Mae’n ein galluogi ni yn yr Ysgol i adolygu’r addysgeg a’r strategaethau dysgu er mwyn inni wasanaethau ein myfyrwyr yn y ffordd orau. Anfonwyd neges at bob aelod o staff Ysgol Fusnes Aberystwyth a oedd yn sôn am yr angen i sicrhau bod sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw yn cael eu rhoi ar BlackBoard cyn i’r darlithoedd gychwyn. Rwy’n hyderus fod hyn eisoes yn digwydd.
Serch hynny, bydd yr Ysgol yn trafod cynllunio sesiynau tiwtora â’i staff a sut y gallwn ennyn diddordeb y myfyrwyr orau ac annog rhagor o gyfraniadau gan fyfyrwyr tra bod ein darpariaeth yn parhau i fod ar-lein yn llawn. Cynlluniwyd y sesiynau tiwtora fel eu bod yn mynd i’r afael â chynnwys y darlithoedd a recordiwyd ymlaen llaw, yn hytrach nag ailadrodd eu cynnwys. Byddwn yn cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth diwtora i sicrhau bod hyn yn digwydd.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2012-5851110 - Mynediad i destunnau craidd arlein
Dy sylw: The core books that is needed for the assignment and preparation for the exams is not available online. I am studying remotely and have no access to the library, only online. As well books are only allowed to loan for one day only. In this way you are not able to make any note, save any pages or use it properly because everyday you have to download it again and start to use from the beginning. Very uncomfortable and takes way longer than having a book properly.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwad yn rhan o Rho Wybod Nawr. Gallaf gadarnhau bod rhestr ddarllen y modiwl hwn wedi'i diweddaru. Mae'r gwersylfr craidd wedi'i restru fel dau gofnod ar wahân (copi print ac e-lyfr), fel bod y myfyrwyr yn gwybod ei fod ar gael yn y ddau fformat.
Cadarnhawyd y gall 3 myfyriwr gael y llyfr gan Saul Estrin; David E. W. Laidler; Michael Dietrich ‘Microeconomics' ar yr un pryd ac y bydd trwyddedau ychwanegol yn cael eu prynu petai’u hangen (mae’r Llyfrgellydd Pwnc a Chydlynydd y Modiwl yn ei adolygu ar hyn o bryd). Ceir hefyd 4 copi print i gefnogi’r e-gopïau.