CYF:66-2102-7467322 - Cymryd rhan mewn sesiynau ar-lein
Dy sylw: since Christmas i have noticed that other students have been contributing less in online sessions, i feel like it unfair as i contribute as much as i can be i don't want to be relied on to contribute all the time and it does not help that students are not interacting with the blackboard content which sometimes slows down the teaching. also, i feel that some modules in live sessions they just talk at us instaed of creating discussion as we should of already watched the blackboard content
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwad. Mae’n ein galluogi ni yn yr Ysgol i adolygu’r addysgeg a’r strategaethau dysgu er mwyn inni wasanaethau ein myfyrwyr yn y ffordd orau. Anfonwyd neges at bob aelod o staff Ysgol Fusnes Aberystwyth a oedd yn sôn am yr angen i sicrhau bod sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw yn cael eu rhoi ar BlackBoard cyn i’r darlithoedd gychwyn. Rwy’n hyderus fod hyn eisoes yn digwydd.
Serch hynny, bydd yr Ysgol yn trafod cynllunio sesiynau tiwtora â’i staff a sut y gallwn ennyn diddordeb y myfyrwyr orau ac annog rhagor o gyfraniadau gan fyfyrwyr tra bod ein darpariaeth yn parhau i fod ar-lein yn llawn. Cynlluniwyd y sesiynau tiwtora fel eu bod yn mynd i’r afael â chynnwys y darlithoedd a recordiwyd ymlaen llaw, yn hytrach nag ailadrodd eu cynnwys. Byddwn yn cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth diwtora i sicrhau bod hyn yn digwydd.