CYF: 66-2310-5901326 - Mynediad at E-PAD

Dy sylw: Can the nursing students EPAD be added to the student sites/ websites page on the university website if possible please. Its hard to locate if it is not saved on our tabs. Our only other way to access it is to go via blackboard and into last years module. Thankyou

Ein hymateb:
Diolch yn fawr am dynnu fy sylw at hyn a gallaf roi’r adborth canlynol:
'Cafodd pob myfyriwr blwyddyn gyntaf ddarlith 2 awr wyneb yn wyneb ar 25 Medi 2023 ar sut i gael mynediad i'r E-PAD, recordiwyd y sesiwn hon hefyd ar Panopto ac mae'n parhau i fod ar gael i'w gweld ar Blackboard ar eu modiwl ar gyfer lleoliadau ymarfer ar NU10460 yn y 'Ffolder Deunydd Dysgu'.
Mae’r ddolen i’r E-PAD yn un Cofrestru Untro a darperir cyfarwyddiadau clir hefyd gan yr Arweinydd E-PAD i fyfyrwyr ac Aseswyr Ymarfer a Goruchwylwyr Ymarfer i’w cynorthwyo wrth ymgymryd â lleoliadau ymarfer.
Yn ogystal, ymgymerodd myfyrwyr ag astudio hunan-gyfeiriedig ar 17 Hydref 2023 yn benodol ar gyfer ymgyfarwyddo â sut mae’r E-PAD yn gweithio a sut i gael mynediad ato. Mae'r E-PAD yn adroddiad personol a chyfrinachol o'u cynnydd mewn lleoliadau ymarfer clinigol.
Bydd yr arweinydd E-PAD hefyd yn rhoi cyhoeddiad ychwanegol i fyfyrwyr heddiw ar Blackboard ac yn ail-rannu’r holl ddolenni mynediad i gynorthwyo eu taith ddysgu ymhellach. Gellir cael mynediad at yr E-PAD drwy ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ac ar ôl cael mynediad, anogir myfyrwyr i lawrlwytho’r ap er mwyn hwyluso’r broses o gael mynediad.
Os bydd gan fyfyrwyr ymholiadau, fe'u hanogir i gysylltu â'r arweinydd E-PAD, Gwyn Jones: gwj377@aber.ac.uk