CYF: 66-2310-9656609 - Bwyta mewn darlithoedd

Dy sylw: Ban eating in lectures. It’s extremely distracting especially for those with neurodivergent issues or sensory problems.

Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw drwy Rho Wybod Nawr.
Ni chaniateir i fyfyrwyr ddod â bwyd na diod (ac eithrio dŵr potel) i ddarlithfeydd neu fannau astudio eraill (ac yn sicr nid labordai) ac felly dylai'r aelod o staff sy'n cyflwyno’r ddarlith fod yn gorfodi ac yn cadw llygad ar hyn. Byddaf yn sicrhau bod y neges hon yn cael ei hailadrodd i staff a byddwn yn annog y Brifysgol i wneud yn siŵr bod arwyddion ‘Dim Bwyta’ ym mhob darlithfa - rwyf newydd wirio yn Edward Llwyd ac mae’r arwyddion yn anghyson.