Pam mae cymaint o sgamiau testun yn sydyn?

02 Mehefin 2021

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Gareth Norris a Alexandra Brookes o’r Adran Seicoleg yn trafod atgyfodiad sgamiau testun a sut y gall dysgu amdanynt gael gwared arnynt

Ymchwil iechyd newydd i gynorthwyo achub pengwiniaid Affrica rhag difodiant

03 Mehefin 2021

Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i sut mae afiechydon a llygredd yn cyfrannu at y cwymp ym mhoblogaeth pengwiniaid Affrica, rhywogaeth sy’n wynebu difodiant o fewn y tri deg i wyth deg mlynedd nesaf.

Gwir liwiau gwleidyddiaeth cydraddoldeb hiliol yng Nghymru

03 Mehefin 2021

Cydraddoldeb hiliol yng Nghymru fydd y pwnc dan sylw yn Narlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2021 a gynhelir ar Zoom nos Fawrth 8 Mehefin 2021.

Arian adfer ychwanegol i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth

08 Mehefin 2021

Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth wedi cael £605,365 o gyllid ychwanegol ar ôl cais llwyddiannus i ail gylch Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ailagor y mis yma

09 Mehefin 2021

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ailagor i’r cyhoedd ar 21 Mehefin 2021.

Cymrodoriaeth i ymchwilio i gysylltiadau hanesyddol rhwng anabledd a thechnoleg

11 Mehefin 2021

Mewn oes pan mae cymalau prosthetig mecanyddol eithriadol soffistigedig i’w cael, mae hanesydd o Brifysgol Aberystwyth am dreulio’i haf yn chwilio am dystiolaeth o ddyfeisiadau tebyg sydd wedi eu creu dros y 700 mlynedd diwethaf.

Digwyddiad ymgysylltu ar-lein i annog Genod i’r Geowyddorau

11 Mehefin 2021

Cynhelir diwrnod o ddigwyddiadau rhithwir ym mis Mehefin er mwyn annog pobl fenywaidd ac anneuaidd ifanc ledled y DU ac Iwerddon i ystyried gyrfa yn y geowyddorau.

Darlithydd yn Ysgol Filfeddygol newydd Cymru yn ennill gwobr nodedig

14 Mehefin 2021

Mae darlithydd yn ysgol filfeddygol newydd Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr am gael effaith sylweddol ar y proffesiwn.

Y Brifysgol yn cyfrannu at bris cerflun er cof am Gymraes arbennig, Cranogwen

15 Mehefin 2021

Y Brifysgol wedi addo cyfraniad ariannol i'r ymgyrch i gomisiynu cerflun ym mhentref Llangrannog o'r bardd a'r newyddiadurwraig arloesol, Cranogwen.

Ni fydd cyfarfod cyntaf Biden a Putin yn ailosod cysylltiadau’r Unol Daleithiau â Rwsia

15 Mehefin 2021

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod Uwchgynhadledd Biden Putin, ac yn awgrym mai symbolaidd yn hytrach na sylweddol fydd cyfarfod cyntaf yr arlywyddion, ond y gallai fod yn sail obeithiol.

Digwyddiad robotiaid Labordy’r Traeth yn symud i gampws Penglais

16 Mehefin 2021

Bydd Labordy’r Traeth, y dathliad ganol haf blynyddol o bopeth yn ymwneud â robotiaid, yn dychwelyd ddydd Sadwrn 19 Mehefin, wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu Wythnos Roboteg y DU (19-25 Mehefin 2021).

Y Brifysgol yn cefnogi’r Cyngor drwy ddarparu sesiynau nofio i’r gymuned

18 Mehefin 2021

Bydd sesiynau nofio ar gyfer y gymuned yn cael eu neilltuo gan Brifysgol Aberystwyth wrth i waith barhau ar Ganolfan Chwaraeon Plascrug yn dilyn ei dadgomisiynu fel ysbyty COVID-19.

Myfyrwyr Aberystwyth yn cael blas ar lwyddiant entrepreneuraidd gyda busnes te premiwm

23 Mehefin 2021

Mae dwy fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn brysur yn creu busnes newydd ar ôl sicrhau mentora a gofod swyddfa rhad ac am ddim am flwyddyn i roi cychwyn da i’w busnes te rhagorol.

Darlith Gyhoeddus: Getting justice for Wales

24 Mehefin 2021

Bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad newydd, Mick Antoniw AS, yn traddodi darlith gyhoeddus ar-lein i Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021.

Gallai microbau sy’n cronni ar yr Ynys Las arwain at golli rhagor o iâ medd ymchwil

25 Mehefin 2021

Fe allai Llen Iâ’r Ynys Las fod dan fygythiad oherwydd bod microbau sydd ar ei arwyneb yn lluosogi’n gynt nag y cant eu golchi i ffwrdd mewn hinsawdd sy’n cynhesu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth.

Prifysgol Aberystwyth i addysgu nyrsio am y tro cyntaf - hwb i’r gwasanaeth iechyd

29 Mehefin 2021

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cymwysterau nyrsio am y tro cyntaf, yn dilyn penderfyniad i gymeradwyo cynlluniau buddsoddi gofal iechyd newydd.

Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddysgu wyneb yn wyneb yn yr hydref

30 Mehefin 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ddysgu wyneb yn wyneb yn y flwyddyn academaidd nesaf.