Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddysgu wyneb yn wyneb yn yr hydref
Yr Athro Tim Woods
30 Mehefin 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ddysgu wyneb yn wyneb yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi fframwaith newydd, a fydd ag egwyddor ganolog o symud tuag at allu gweithredu mor normal â phosibl ym maes addysg yn ystod tymor yr hydref.
Drwy symud i ffwrdd o’r rheol pellter cymdeithasol o 2 fetr i fodel grwpiau cyswllt yn yr ystafell dosbarth, nod y cynlluniau yw caniatáu mwy o ddysgu wyneb-yn-wyneb, ar yr amod bod y risg yn isel neu’n gymedrol.
Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad yma’n fawr, un sy’n cadarnhau ein bod yn gallu, mewn rhai meysydd, cynyddu ein dysgu wyneb yn wyneb ar gyfer dechau’r flwyddyn academaidd, wrth i ni barhau i flaenoriaethu iechyd a lles pawb.
“Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, diolch i ddyfalbarhad a chefnogaeth ein staff a myfyrwyr, rydym yn credu y llwyddom i ddarparu ymysg y lefelau uchaf o ddysgu ac addysgu wyneb yn wyneb o blith holl brifysgolion y Deyrnas Gyfunol pan roedd rheoliadau’r llywodraeth yn caniatáu. Roedd hyn yn rhan o’n trefn o ddysgu cyfunol a oedd yn cynnwys gweithgareddau ar-lein hefyd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn caniatáu i ni gynllunio er mwyn adeiladu ar ein darpariaeth. Rydym mewn sefyllfa gref i’w wneud – yn ôl tablau cynghrair y Times / Sunday Times yn 2021, mae Aberystwyth yn rhif un yn y Deyrnas Gyfunol am brofiad myfyrwyr ac ansawdd y dysgu.”
“Mae’n hardal leol yma yn Aberystwyth wedi bod yn ffodus iawn i fod â rhai o’r lefelau isaf o COVID-19 yng Nghymru a’r DG. Ar yr un pryd, mae gan Gymru un o’r graddfeydd brechu uchaf yn y byd. Byddwn ni’n parhau i gydweithio gyda’n partneriaid allweddol er mwyn cynnal hyn a pharhau i warchod iechyd a lles, ac i ddarparu cymaint o ddysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosibl.”
Daw’r newyddion wedi i ddysgu wyneb yn wyneb ail-gychwyn yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod y tymor ar ôl y Pasg, ac a ddaeth i ben ar ddiwedd mis Mai.
Llywodraeth Cymru oedd yr unig lywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol i ganiatáu i brifysgolion ddychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb yn syth wedi gwyliau’r Pasg.
Ychwanegodd Yr Athro Woods:
“Mae’r penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru hwn yn cydnabod pa mor llwyddiannus a diogel y bu’r ddarpariaeth dysgu wyneb yn wyneb, a sut rydyn ni wedi rhoi mesurau cynhwysfawr yn eu lle er mwyn gwneud ein cyfleusterau dysgu yn lleoedd diogel o ran COVID.
“Byddwn ni’n parhau i ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru, sydd nawr yn caniatáu i ni gynllunio ar gyfer lefelau dysgu wyneb yn wyneb sydd hyd yn oed yn uwch, er mwyn sicrhau’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr. Yn ogystal, byddwn ni’n parhau i gadw'r gorau o’r ddarpariaeth ddigidol er mwyn bod yn barod ar gyfer pob senario posibl.”