Y Brifysgol yn cyfrannu at bris cerflun er cof am Gymraes arbennig, Cranogwen

Cranogwen. Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cranogwen. Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

15 Mehefin 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi addo cyfraniad ariannol i'r ymgyrch i gomisiynu cerflun ym mhentref Llangrannog o'r bardd a'r newyddiadurwraig arloesol, Cranogwen.

Nod ymgyrch Monumental Welsh Women yw cynyddu nifer y cerfluniau cyhoeddus o fenywod yng Nghymru. Trwy brosiect y grŵp, ‘Merched Mawreddog’, sylweddolwyd nad oes un cerflun o Gymraes hanesyddol mewn unrhyw safle awyr-agored yng Nghymru. I geisio gwneud iawn am yr anghydbwysedd hwn mewn celfyddyd gyhoeddus yng Nghymru, eu nod yw codi pum cerflun dros gyfnod o bum mlynedd.

Dywedir mai Sarah Jane Rees (1839-1916), a anwyd ym mhentref Llangrannog, sy'n fwy adnabyddus trwy ei henw barddol, Cranogwen, oedd "Cymraes fwyaf eithriadol y 19eg ganrif". 

Yn styfnig ac eithriadol annibynnol, gwrthododd Cranogwen gydymffurfio â chyfyngiadau bywyd menywod yn Oes Fictoria. Rhagorodd mewn sawl maes, yn llongwr, bardd, athrawes, darlithydd, newyddiadurwraig, pregethwr, hyrwyddwr dirwest, ac ymgyrchydd gwleidyddol.

Yn gapten yn ei hawl ei hun, roedd wedi cymhwyso i reoli llong yn unrhyw ran o'r byd. Yn 21 oed, hi oedd prif athrawes ysgol y pentref, ac fe sefydlodd ei hysgol Forwriaeth ei hun yn Llangrannog ym 1859 lle dysgai grefft morwriaeth i lanciau lleol. Fel bardd, daeth i amlygrwydd am mai hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr am farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Aberystwyth, 1865). Hi yw'r fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod, Y Frythones, a ymgyrchodd o blaid addysg i ferched a rhoi llwyfan i awduresau eraill. Fel darlithydd a phregethwr, teithiodd hyd a lled Cymru ac America, ar adeg nad oedd clywed menywod yn siarad yn gyhoeddus yn cael ei gymeradwyo. Hefyd, fe sefydlodd Undeb Dirwest Menywod De Cymru ac amlinellu ei gweledigaeth am loches i fenywod ifanc digartref.

Bwriad yr ymgyrch Monumental Welsh Women yw comisiynu'r artist amlwg Seb Boyesen, sy'n byw a gweithio yn Llangrannog, i greu cerflun efydd gwir-faint o Cranogwen, i'w godi ger Eglwys Sant Crannog lle mae wedi'i chladdu.

Meddai'r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae'n bleser gan Brifysgol Aberystwyth chwarae ei rhan yn yr ymgyrch werth chweil hon i unioni sefyllfa diffyg amrywiaeth cerfluniau cyhoeddus yng Nghymru. Bu cydraddoldeb yn rhan allweddol o genadwri Prifysgol Aberystwyth o'r cychwyn, ac roedd yn un o'r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i dderbyn menywod yn fyfyrwyr ym 1874, ac yma yr agorwyd y neuadd breswyl bwrpasol gyntaf mewn prifysgol i ferched ym 1896. Gadawodd cyflawniadau eithriadol ac arloesol etifeddiaeth yng Ngheredigion, ac mae'r Bryfysol yn falch i gael cyfrannu tuag at godi arian ar gyfer cerflun i gydnabod ei bywyd eithriadol."

Meddai Helen Molyneux, o'r ymgyrch Monumental Welsh Women: "Rydym wrth ein bodd bod y Brifysgol mor gefnogol i'n prosiect ac yn ddiolchgar iawn am ei chyfraniad i'r gronfa, a fydd yn sicrhau y gallwn gomisiynu cerflun teilwng i'n harwres. Mae Cranogwen yn haeddu cael ei chofio a'i chydnabod am yr hyn a gyflawnodd a gobeithio y bydd y cerflun ohoni yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o ferched yn Llangrannog a gorllewin Cymru i fynnu gorwelion eang ac uchelgais fawr."

Y menywod eraill y mae'r grŵp yn bwriadu comisiynu cerfluniau ohonynt yw: Betty Campbell, sef y ddynes ddu gyntaf i fod yn brifathrawes yng Nghymru; y weithredwraig wleidyddol arloesol, Elizabeth Andrews; Elaine Morgan, awdures arloesol i'r teledu ac eicon ffeministaidd; a'r swffragét ac ymgyrchydd gydol oes o blaid cydraddoldeb, Margaret Haig Thomas (y Fonesig Rhondda).

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £100,000 tuag at gostau'r cerfluniau, yr amcangyfrifir a fydd yn costio £75,000 yr un, ac mae gweddill yr arian yn cael ei geisio trwy ymgyrchoedd codi arian.  I gael mwy o wybodaeth am yr apêl codi arian ar gyfer y cerflun o Cranogwen ewch i: Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Monument