Darlith Gyhoeddus: Getting justice for Wales
Mick Antoniw AS
24 Mehefin 2021
Bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad newydd, Mick Antoniw AS, yn traddodi darlith gyhoeddus ar-lein i Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021.
Yn ei ddarlith 'Getting justice for Wales' bydd Mick Antoniw AS yn trafod cyfiawnder fel y maes mwyaf arwyddocaol, o safbwynt cyfansoddiadol, lle nad oes gan sefydliadau democrataidd Cymru y cyfrifoldebau sydd ar gael i’r sefydliadau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn crynhoi canfyddiadau’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yn trafod materion yn ymwneud â’r setliad presennol ac yn amlinellu sut y gallwn ddatblygu’r achos o blaid datganoli heddlua a chyfiawnder yng Nghymru.
Yng nghyd-destun y ddogfen o bwys gan Lywodraeth Cymru, ‘Diwygio ein Hundeb: cydlywodraethu yn y DU’, bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad hefyd yn amlinellu sut mae’n bwriadu cynnwys dinasyddion Cymru wrth fynd ati i lunio gweledigaeth newydd ar gyfer Cymru gref mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus.
Cynhelir y ddarlith ar-lein am 2pm ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021. Mae croeso i bawb ond bydd angen ichi gofrestru ymlaen llaw ar: https://tocyn.cymru/cy/event/c4802058-655e-4e48-af00-ce4e11cc3152
Yn ôl yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth: "Mae Mick Antoniw AS wedi darlithio'n eang ar faterion yn ymwneud â chyfiawnder, fel Aelod o'r Senedd ac fel ymarferydd, a hynny ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd yn hynod o ddiddorol clywed ei safbwyntiau ynghylch sut y mae'r Llywodraeth newydd yng Nghaerdydd yn bwriadu cyflwyno argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd."
Cefndir Mick Antoniw AS
Astudiodd Mick Antoniw AS y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn bartner yng nghwmni cyfreithwyr undebau llafur Thompsons cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2011. Ers hynny mae'n Aelod o’r Senedd dros Bontypridd a Thaf Elái ar ran Llafur Cymru a'r Blaid Gydweithredol. Bu'n Gwnsler Cyffredinol, sef prif gynghorydd cyfreithiol a chynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn y llysoedd, rhwng Mehefin 2016 a Thachwedd 2017. Fe'i penodwyd yn Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ym Mai 2021.