Y Brifysgol yn cefnogi’r Cyngor drwy ddarparu sesiynau nofio i’r gymuned

Pwll nofio Aberystwyth

Pwll nofio Aberystwyth

18 Mehefin 2021

Bydd sesiynau nofio ar gyfer y gymuned yn cael eu neilltuo gan Brifysgol Aberystwyth wrth i waith barhau ar Ganolfan Chwaraeon Plascrug yn dilyn ei dadgomisiynu fel ysbyty COVID-19.

Yn amodol ar fod nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Ngheredigion yn parhau’n isel, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion y bydd nifer cyfyngedig o slotiau nofio ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol o ddydd Llun 28 Mehefin 2021.

Bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol ac ni chaniateir galw heibio. Bydd manylion llawn y slotiau a fydd ar gael, ynghyd â sut i archebu, ar gael ar wefan Ceredigion Actif cyn hir.

Dywedodd Darren Hathaway, Pennaeth Chwaraeon a Thiroedd Prifysgol Aberystwyth: “Mae cydweithredu a chydweithio wedi bod yn nodwedd o’r modd y mae pawb yng Ngheredigion wedi gweithio mor galed i gyfyngu ar ledaeniad y feirws a chadw pobl yn ddiogel. Bellach, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol, rydym yn falch iawn o allu parhau i weithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a chaniatau mynediad, y mae mawr ei angen, i’n pwll nofio er budd y gymuned ehangach.”

Yn unol â chanllaw Llywodraeth Cymru, agorodd Canolfan Chwaraeon y Brifysgol ei drysau o’r newydd i aelodau ar 4 Mai, gan gynnig amgylchedd diogel o ran COVID i’w haelodau ymarfer.

Mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn cynnig mynediad i’r gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau ymarfer grŵp, a’r trac drwy system aelodaeth fisol.

Mae gwybodaeth am aelodaeth i staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach ar gael ar wefan y Ganolfan Chwaraeon.