Myfyrwyr Aberystwyth yn cael blas ar lwyddiant entrepreneuraidd gyda busnes te premiwm

Amy Aed (chwith) and Emily Knipe (de), EISA Tea co

Amy Aed (chwith) and Emily Knipe (de), EISA Tea co

23 Mehefin 2021

Mae dwy fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn brysur yn creu busnes newydd ar ôl sicrhau mentora a gofod swyddfa rhad ac am ddim am flwyddyn i roi cychwyn da i’w busnes te rhagorol.

Cyfarfu Amy Aed, 22, ac Emily Knipe, 20 yn y Brifysgol a sylweddolodd y ddwy ohonyn nhw eu bod yn rhannu’r un cariad tuag at de. Yn dilyn hynny, maen nhw wedi lansio EISA Tea co., busnes te premiwm yn seiliedig ar egwyddorion cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol.

Gyda’r uchelgais o sicrhau bod EISA Tea co. yn cael ei werthu mewn caffis, delis a gwestai o fis Mehefin ymlaen, mae cynnyrch cyntaf y busnes yn cynnwys dau de pur a dau de cymysg. Er bod y te gwyn a’r te gwyrdd o ansawdd uchel yn mynd i apelio at yfwyr te traddodiadol, mae’r pâr yn gobeithio denu cwsmeriaid newydd gyda'r te blas cacen gri cyntaf y byd a the chai figanaidd gludiog cyntaf y DU.

Wrth siarad am sut y dechreuodd EISA Tea Co., dywedodd Emily: “Pan ddechreuodd y pandemig, fe wnaethom benderfynu dilyn cwrs te ar-lein i ehangu ein gwybodaeth am y diwydiant. Ar ôl darganfod mwy am yr holl broblemau moesegol sy’n gysylltiedig â ffermio te, doedden ni ddim hyd yn oed yn gallu mwynhau paned heb deimlo’n euog.

“Fe wnaethon ni gydnabod y gallai pobl eraill sy’n caru te wynebu’r un cyfyng-gyngor moesegol hefyd, a buan iawn y sylweddolon ni fod bwlch yn y farchnad ar gyfer te blasus gyda llai o faich amgylcheddol. Hon oedd y prif ysgogiad i sicrhau bod ein cynnyrch yn cael eu ffermio’n gyfrifol a bod EISA Tea co. yn fusnes moesegol.”

Wrth siarad am safiad moesegol EISA Tea Co., dywedodd Amy: “Rydyn ni’n fusnes sy’n eiddo i fenywod ac sy’n cael ei weithredu gan fenywod, ac rydyn ni eisiau defnyddio ein hadnoddau i rymuso menywod yn uniongyrchol ledled y byd. Mae’r rhan fwyaf o’r ffermwyr te rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda nhw’n fenywod, ac mae gennym ni safonau uchel o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws ffermydd.”

Mae te heb blastig, gyda deunydd pacio wedi’i wneud o bapur bioddiraddadwy, a rhodd o’i elw yn mynd tuag at achosion amgylcheddol yn rhai o’r addewidion cynaliadwy sy’n rhan o EISA Tea Co.

Gyda blog te sefydledig a thros 350 o wahanol de wedi eu samplo rhyngddynt, cofrestrodd Amy ac Emily EISA Tea co. ar gyfer cystadleuaeth InvEnterPrize flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a drefnwyd gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol gyda chefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru.

Er mwyn helpu’r myfyrwyr i ddatblygu eu meddylfryd entrepreneuraidd, penodwyd ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru i Emily ac Amy, sef Julie Morgan, a roddodd gyngor i’r myfyrwyr ar ysgrifennu cynllun busnes, rhagolygon ariannol, marchnata a datblygu busnes.

Ochr yn ochr â’r cymorth un-i-un hwn gan Syniadau Mawr Cymru, sicrhaodd Amy ac Emily le swyddfa am ddim am flwyddyn yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth er mwyn datblygu EISA Tea co. ymhellach, a hynny ar ôl iddyn nhw ddod yn ail yn y gystadleuaeth.

Wrth siarad am y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael, dywedodd Emily: “Mae’r Brifysgol a Syniadau Mawr Cymru wedi cynnig cefnogaeth anhygoel i ni ar ddechrau ein taith fusnes. Mae cael cyfle i siarad ag entrepreneuriaid o’r un anian yn sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru wedi golygu ein bod wedi cael cyngor am ddim gan bobl fusnes llwyddiannus sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â ni nawr. Mae gwybod bod Syniadau Mawr Cymru ar ben arall y ffôn yn gysur mawr wrth i ni ddatblygu ein busnes.”

Yn y tymor hir, mae’r menywod busnes yn cael eu gweld fel arweinwyr y farchnad mewn te premiwm wedi’i dyfu’n gynaliadwy ac yn gobeithio ymweld â ffermydd te yn Asia i ddatblygu cysylltiadau mwy personol â ffermwyr.

Dywedodd Tony Orme, Cynghorydd Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n wych gweld y myfyrwyr hyn yn troi rhywbeth maen nhw wrth eu bodd yn ei wneud yn fenter, gan ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu gyda’r brifysgol ac yn ystod y gystadleuaeth InvEnterPrize i ddatblygu busnes cadarn. Mae Emily ac Amy wedi gallu troi’r flwyddyn heriol hon i gynifer o fusnesau yn ddechrau newydd i’w busnes eu hunain.”

Dywedodd Julie Morgan, ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld sut mae Emily ac Amy wedi llwyddo i droi eu hangerdd yn fusnes go iawn gydag agwedd foesegol. Mae ganddynt frand cryf sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac sydd wedi ymrwymo iddo. Gan gyfuno hyn â’u craffter busnes naturiol, mae gen i obeithion mawr am y ddwy ohonynt ac edrychaf ymlaen at weld EISA Tea co. yn tyfu i fod yn fusnes llwyddiannus.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd menter ymysg myfyrwyr (ar draws pob rhaglen radd), graddedigion a staff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we AberPreneurs.

Cefnogir cystadleuaeth menter myfyrwyr y Brifysgol, y Wobr CaisDyfeisio (InvEnterPrize), a gynhelir yn flynyddol, gan Syniadau Mawr Cymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Fusnes Cymru ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.