Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ailagor y mis yma

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

09 Mehefin 2021

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ailagor i’r cyhoedd ar 21 Mehefin 2021.

Caeodd Canolfan y Celfyddydau, y ganolfan fwyaf o’i math yng Nghymru, ei drysau i’r cyhoedd ar 17 Mawrth 2020 oherwydd datblygiad yr argyfwng coronafeirws, a bu rhaid gohirio cynlluniau i ailagor yr hydref diwethaf oherwydd difrod llifogydd.  

Er bod yr adeilad wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers dros flwyddyn, mae’r Ganolfan wedi parhau i gynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau ar-lein. 

Mae’r rhaglen wedi cynnwys sinema rithiol, dwy ŵyl ffilm ar-lein, dosbarthiadau dawns digidol, a chwisiau celfyddydol ar-lein.

Yn ogystal, enillodd dau artist y cyfle i ymsefydlu yn Stiwdios Creadigol Heatherwick, a derbyniodd artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg diwtorialau gyda’r artistiaid cyfoes blaenllaw Bedwyr Williams, Ingrid Murphy, Angharad Pearce Jones a Suzie Larke.

Dros y misoedd diwethaf, gwnaethpwyd gwelliannau sylweddol i’r adeilad, gan gynnwys gosod lloriau newydd, adnewyddu’r Swyddfa Docynnau a gosod taflunydd newydd yn y Theatr.  

Mae’r Ganolfan hefyd wedi gwella ei rhwydweithiau digidol ac uwchraddio i system docynnau electronig.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dafydd Rhys: “’Rydym yn falch iawn ein bod mewn sefyllfa o’r diwedd lle y gallwn ailagor ein drysau’n ddiogel i’n cwsmeriaid, a’u croesawu’n ôl i’n rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau. 

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous, wrth i ni edrych ymlaen at ailagor ein dosbarthiadau dawns wyneb yn wyneb ar 14 Mehefin, yr Ysgol Lwyfan ar 19 Mehefin, cyn ailagor i’r cyhoedd ar 21 Mehefin. 

“Mae rhaglen lawn o’r ffilmiau diweddaraf wedi’i threfnu a byddant yn cael eu dangos yn y Theatr, gyda threfniadau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle. Yn ein horielau, a thrwy’r adeilad cyfan, bydd ein harddangosfa Cyfnod Clo yn cynnwys gwaith a grewyd yn ystod, neu sy’n edrych yn ôl ar, y pandemig.

“Bydd teuluoedd yn falch o glywed y byddwn yn cynnal amrediad eang o weithgareddau dros wyliau’r haf yn cynnwys dawns; drama a chelf a chrefft i blant (gyda’r Criw Celf poblogaidd yn dychwelyd mewn person); yn ogystal â dosbarthiadau meistr ar y penwythnos i oedolion.

“Byddwn hefyd yn cynnig rhaglen o weithgareddau haf awyr agored ar Gwrt y Capel, yn cynnwys theatr, cerddoriaeth, a digwyddiadau teuluol.”

“Diogelwch a lles ein cwsmeriaid a staff yw ein prif flaenoriaeth, ac ‘rydym wedi gosod nifer o weithdrefnau yn eu lle i’n caniatau i ailagor yn ddiogel ac i ennyn hyder ein cwsmeriaid. ‘Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn cymeradwyaeth safonau ‘Barod i Fynd’ a ‘Gwylio’n Ddiogel’, sy’n cael eu defnyddio gan y diwydiant i warantu bod canolfannau yn dilyn protocolau COVID.  Hyd at yr hydref byddwn hefyd yn gweithredu cynllun ‘Archebwch gyda Hyder’, sy’n caniatau i brynwyr tocynnau dderbyn ad-daliadau os nad ydynt yn medru mynychu digwyddiad am resymau sy’n gysylltiedig â Covid-19. 

“’Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eich croesawu’n ôl i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.”

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth, wedi’i lleoli ar ganol campws y Brifysgol. Dyma ganolfan gelfyddydau fwyaf Cymru ac fe’i cydnabyddir fel adnodd o bwys cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau.  Mae ganddi raglen artistig eang, o ran cynhyrchu a chyflwyno, ar draws yr holl ffurfiau celfyddydol gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, ffilm a’r celfyddydau cymunedol ac fe’i hystyrir yn ganolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau.

Yn ystod y pandemig COVID-19, bu’r Ganolfan yn llwyddiannus wrth gyflwyno dau gais i’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, pecyn achub ac adferiad Llywodraeth Cymru ar gyfer cynorthwyo’r sector gelfyddydol yng Nghymru i oroesi’r argyfwng COVID-19 ac i barhau’n weithgar, ac yn ariannol hyfyw a chynaliadwy.