Prifysgol Aberystwyth i addysgu nyrsio am y tro cyntaf - hwb i’r gwasanaeth iechyd

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

29 Mehefin 2021

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cymwysterau nyrsio am y tro cyntaf, yn dilyn penderfyniad i gymeradwyo cynlluniau buddsoddi gofal iechyd newydd.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi dyfarnu cytundeb 10 mlynedd i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys oedolion ac iechyd meddwl tan ddiwedd y degawd.

Bydd y myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd ar gyfer eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022.

Mae’r penderfyniad wedi ei groesawu’n wresog fel hwb mawr i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.

Yn ogystal, caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd y cyfle i dderbyn hyd at hanner eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae hyn yn newyddion ardderchog a chyffrous i bawb yma yn Aberystwyth. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu ein cynlluniau i ddarparu addysg nyrsio yma. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth gyson ein partneriaid, gan gynnwys y byrddau iechyd lleol a Chyngor Sir Ceredigion, hebddynt, ni fyddai’r datblygiad cyffrous hwn yn bosibl.”

“Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n partneriaid, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig; a bydd sefydlu addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny. Bydd yn fuddiol o ran recriwtio a chadw nyrsys, yn ogystal â bod â’r potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb. Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt.”

“Yn ystod y pandemig, mae gwaith ein nyrsys, a’n gweithwyr iechyd a gofal eraill yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n anrhydedd mawr fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ymddiried a buddsoddi ynddon ni, er mwyn i ni wireddu ein cynlluniau cyffrous i addysgu nyrsys yma.”

Ychwanegodd Yr Athro Treasure:

“Ein huchelgais yw chwarae rôl hyd yn oed yn fwy mewn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd dros y blynyddoedd i ddod. O ystyried profiadau pawb yn ystod y pandemig, onid oes adeg bwysicach nag yn awr i flaenoriaethu buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc ddawnus a fydd yn gyfrifol am les pob un ohonom.”

Dywedodd Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Mae hwn wedi bod yn ddarn enfawr o waith sy’n dyst i bwysigrwydd addysg gofal iechyd o ansawdd uchel ac i ofal cleifion yng Nghymru. Bydd y trefniadau ar gyfer ehangu mynediad a gwreiddio hyfforddiant yn ein cymunedau yn arfogi ein myfyrwyr er mwyn gwasanaethu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol.

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â hyn gan gynnwys rhanddeiliaid sydd wedi cynorthwyo gyda llunio’r cytundebau, ac, yn ei dro, dyfodol gofal iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phrifysgolion a byrddau iechyd er mwyn gwireddu’r weledigaeth ac i arfogi myfyrwyr gyda’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad er mwyn cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus a boddhaus.” 

Datblygwyd y cynigion i sefydlu addysg nyrsio gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

O’r hydref eleni, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am leoedd ar y cyrsiau gradd mewn nyrsio oedolion a nyrsio iechyd meddwl y Brifysgol sy’n cychwyn yn 2022. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy e-bostio nrsstaff@aber.ac.uk.