Digwyddiad robotiaid Labordy’r Traeth yn symud i gampws Penglais
Labordy’r Traeth 2018
16 Mehefin 2021
Bydd Labordy’r Traeth, y dathliad ganol haf blynyddol o bopeth yn ymwneud â robotiaid, yn dychwelyd ddydd Sadwrn 19 Mehefin, wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu Wythnos Roboteg y DU (19-25 Mehefin 2021).
Cynhelir y digwyddiad eleni yn yr awyr agored ar gampws Penglais, yn hytrach na’r lleoliad arferol ar y Bandstand yn Aberystwyth, ac yn unol â’r canllawiau COVID-19 diweddaraf.
Wedi ei leoli ar faes parcio Llandinam ar gampws Penglais ac ar agor o 10 y bore tan 4 y prynhawn, gofynnir i ymwelwyr gofrestru ymlaen llaw a dewis slot amser drwy safle docynnau Labordy’r Traeth.
Yn ogystal, bydd cod QR Profi ac Olrhain y GIG yn ei le ar ddesg groeso Labordy’r Traeth ar y diwrnod.
Ac, i’r rhai fydd yn cyrraedd mewn car, mi fydd arwyddion amlwg yn eu cyfeirio at faes parcio Edward Llwyd, sydd o fewn munud neu ddwy ar droed o’r digwyddiad.
Dywedodd trefnydd Wythnos Roboteg Aberystwyth, Dr Patricia Shaw: “Mae diogelwch yn flaenoriaeth ac mae pob cam wedi ei gymryd i sicrhau y bydd pawb yn medru mwynhau Labordy’r Traeth mewn amgylchedd diogel o ran COVID. Rydym yn gofyn i bobl fwcio ymlaen llaw a bydd disgwyl i ymwelwyr ddarparu eu manylion cyswllt ar gyfer anghenion profi ac olrhain.
“Mae Labordy’r Traeth wedi bod yn gyfle gwych i arddangos y gwaith ymchwil diweddaraf yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ynghyd â gwaith rhagorol to newydd o grewyr ac adeiladwyr robotiaid, a’n gobaith yw na fydd eleni’n eithriad.”
Mae’r digwyddiad undydd sy’n cynnwys robotiaid tir, môr ac awyr, wedi bod yn llwyfan lliwgar i wneuthurwyr robotiaid ifanc o Glwb Roboteg Aberystwyth ers blynyddoedd, a chyfle i weld rhai o greadigaethau gwych Dr Who sydd wedi eu hadeiladu gan Stephen a Tomos Fearn.
Ychwanegiad newydd i’r digwyddiad eleni fydd y cwmni o Ynys Môn, Bailey Robotics, a fydd yn dangos ei robotiaid ei hunain yn y sioe.
Un arall fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yw Afanc, llong danfor roboteg newydd y Brifysgol, sy’n gallu plymio i ddyfnder o 50 metr ac a fydd yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am y môr.
Labordy’r Traeth yw’r digwyddiad cyntaf mewn rhaglen o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan Brifysgol Aberystwyth i nodi Wythnos Roboteg y DU.
Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiwn ar adeilad tŷ deallus, gweithdy rhaglenni robotiaid a thrafodaeth ar y cwestiwn, a oes angen dos o gyfrifoldeb cymdeithasol ar y trawsnewidiad digidol.
Ychwanegodd Dr Patricia Shaw: “Mae robotiaid yn rhan gynyddol o fywyd bob dydd, ac felly mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn ar gyfer codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diddordeb yn yr ymchwil a'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae'r dyfodol yn dibynnu ar blant yn datblygu'r sgiliau i adeiladu a rhaglennu robotiaid i allu cwblhau ystod eang o dasgau, felly mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos wedi'i chynllunio i ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed a gallu.”
Am ragor o wybodaeth am Labordy’r Traeth ac Wythnos Roboteg Aberystwyth ewch ihttps://fbaps-outreach-hub.dcs.aber.ac.uk/Events/RoboticsWeek/2021/homePageCy.html, tudalen Facebook y digwyddiad https://www.facebook.com/aberroboticsweek, e-bostiwch roboticsweek@aber.ac.uk, neu dilynwch #WythnosRobotegAber.
Cefnogir Wythnos Roboteg Aberystwyth 2021 gan Rwydwaith UK-RAS a BCS Y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth.