Cymrodoriaeth i ymchwilio i gysylltiadau hanesyddol rhwng anabledd a thechnoleg
Dr Rachael Gillibrand o Adran Hanes a Hanes Cymru, sy’n ymchwilio i’r cysylltiad rhwng anabledd a thechnoleg.
11 Mehefin 2021
Mewn oes pan mae cymalau prosthetig mecanyddol eithriadol soffistigedig i’w cael, mae hanesydd o Brifysgol Aberystwyth am dreulio’i haf yn chwilio am dystiolaeth o ddyfeisiadau tebyg sydd wedi eu creu dros y 700 mlynedd diwethaf.
Mae Dr Rachael Gillibrand o Adran Hanes a Hanes Cymru’r Brifysgol wedi derbyn Cymrodoriaeth Jaipreet Virdi 2021 ar gyfer Astudiaethau Anabledd gan y Llyfrgell Treftadaeth Feddygol (Medical Heritage Library).
Bydd y Gymrodoriaeth yn ei galluogi i chwilio am gysylltiadau rhwng anabledd a thechnoleg o'r 13eg ganrif hyd heddiw.
Yn ôl Dr Gillibrand mae tystiolaeth bod cymalau prosthetig mecanyddol wedi'u cynhyrchu mor gynnar â 1450.
Bydd ei gwaith ar archifau'r Llyfrgell Treftadaeth Feddygol yn edrych ar bob math o dechnoleg, o ffyn cerdded syml i ddyfeisiadau llawer mwy cymleth a chywrain, a phob math o anableddau.
Eisoes daeth o hyd i fideo o 1950 am uned adsefydlu cwmni Vauxhall Motors yn Luton, a disgrifiad o gadair olwyn “ ar gyfer y methedig” mewn hysbyseb o 1787 ar gyfer amgueddfa fecanyddol Merlin yn Llundain.
Ffynhonnell arall yw Chirurgia magna Guy de Chauliac o 1363, sy'n sôn am ddefnyddio sbectol i ddiogelu golwg. Mae copi o'r llawysgrif o 1506, o ddinas Lyons yn Ffrainc, yn rhan o’r archif.
Mae'r archif ar-lein yn dwyn ynghyd deunydd wedi'i ddigideiddio o rai o lyfrgelloedd meddygol mwyaf blaenllaw'r byd gyda’r nod o ddarparu mynediad agored i adnoddau hanes gofal iechyd a gwyddor iechyd.
Dywedodd Dr Gillibrand: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi derbyn Cymrodoriaeth Jaipreet Virdi 2021 ar gyfer Astudiaethau Anabledd. Rwyf wedi ymddiddori mewn hanes meddygol ers yn ifanc ac mae ei wneud yn fwy hygyrch i gyd-ymchwilwyr a'r cyhoedd yn bwysig i mi.
“Mae'r defnydd o dechnoleg i helpu pobl i oresgyn eu hanableddau yn mynd yn ôl yn bell iawn. Mae canfyddiad cyffredinol y byddai pobl a anwyd ag anableddau yn yr Oesoedd Canol yn cael eu hysgymuno gan gymdeithas, ond mae ffynonellau hanesyddol yn awgrymu nad felly yr oedd hi; roedd llawer yn derbyn gofal mewn ffordd nad ydym yn meddwl amdani heddiw. Mae hanes hefyd yn dangos sut mae ein dealltwriaeth o anabledd wedi newid. Yn yr Oesoedd Canol ystyriwyd bod yr anallu i glywed yn anabledd dysgu oherwydd ei effaith ar ddatblygiad iaith, ond heddiw mae'n cael ei ystyried yn anabledd corfforol.”
Yn wreiddiol o Blackpool, sbardunwyd diddordeb Dr Gillibrand mewn hanes meddygaeth gan ymweliadau mynych â'r ysbyty i weld ei chwaer, a oedd yn dioddef o gyflwr ar y galon pan yn blentyn.
Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2021 ar ôl cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Leeds ar y diwylliant sy'n gysylltiedig ag anabledd rhwng y blynyddoedd 1450 a 1550.
Fel rhan o’i gwaith addysgu israddedig, mae hi’n cyflwyno modiwl ar fyw gydag anabledd yn yr Oesoedd Canol; ‘Dread and Despair? Living with Disability in the Middle Ages’.