Porth ar-lein newydd yn cynnig cyngor i ddarpar fyfyrwyr prifysgol

01 Mai 2020

Mae porth ar-lein newydd i helpu pobl ifanc gyda pharatoadau ar gyfer bywyd prifysgol yn ystod y cyfnod y Coronafeirws wedi'i lansio gan Brifysgol Aberystwyth.

Dull ymchwilydd o adnabod gwendidau Coronafeirws yn llwybr at driniaethau posib

04 Mai 2020

Mae ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth wedi datblygu dull o adnabod gwendidau posibl yn y Coronafeirws, allai gynorthwyo datblygu brechlynnau a thriniaethau cyffur.

Gallai newid yn yr hinsawdd ddryllio ffermydd defaid traddodiadol yng Nghymru

04 Mai 2020

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Muhammad Naveed Arshad a Mariecia Frasor o IBERS yn trafod y problemau sy’n wynebu ffermwyr defaid oherwydd tywydd eithafol yr haf, a’r ffaith y bydd parhad gwres a sychder eithriadol yr hafau diweddar yn ei gwneud hi’n annhebygol i Gymru allu parhau i gefnogi ei 10 miliwn o ddefaid.

Coroni Seicoleg yn Adran y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol

04 Mai 2020

Mae’r Adran Seicoleg wedi ennill teitl clodfawr Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2020 am yr ail flwyddyn yn olynol, yr adran gyntaf erioed i wneud hynny.

Ydy hi’n iawn chwerthin yn ystod pandemig?

05 Mai 2020

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Gil Greengross o’r Adran Seicoleg yn trafod sut mae pobl yn defnyddio memes neu fideos doniol ar gyfryngau cymdeithasol fel mecanwaith amddiffyn i’n helpu ni ddelio â’r sefyllfa hon sy’n heriol yn emosiynol.

Cynnig adeiladau’r Brifysgol i addysgu myfyrwyr Ysgol

06 Mai 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig safle i Gyngor Sir Ceredigion ar Gampws Penglais  fel rhan o gynlluniau wrth gefn sydd wedi’u rhoi ar waith pe bai disgyblion yn dychwelyd yn raddol i’r ysgol cyn Medi 2020.

Partneriaeth leol newydd i gynhyrchu offer gwarchodol

11 Mai 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda grŵp ym Machynlleth er mwyn cynhyrchu rhagor o PPE i amddiffyn gweithwyr iechyd a gofal rhag haint Covid-19.

Ymchwil i heddlua grwpiau bregus diolch i ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg

11 Mai 2020

Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill ysgoloriaeth i gynnal ymchwil ar heddlua pobl fregus.

Rhyddid ar Wahân - Arddangosfa ar-lein Celfyddydau Creadigol

12 Mai 2020

Myfyrwyr Celfyddydau Creadigol Prifysgol Aberystwyth yn cynhyrchu arddangosfa ar-lein arloesol o waith a grëwyd mewn ymateb i gyfyngiadau symud Covid-19.

Covid-19: canllaw ynghylch gofid a gorbryder yn Gymraeg

18 Mai 2020

Mae canllaw ymarferol ar-lein ynghylch byw gyda gofid a gorbryder yn ystod pandemig Covid-19 bellach ar gael yn Gymraeg, diolch i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Rhaglen ar-lein yn galluogi i fyfyrwyr gydol oes astudio o bell

18 Mai 2020

Mae Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ffordd amgen o ddysgu yn ystod y pandemig Covid-19.

Gŵyl y Flwyddyn Olaf yn mynd yn ddigidol

19 Mai 2020

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cyflwyno ffrwyth eu llafur creadigol ar-lein yr wythnos hon wrth i un o ddigwyddiadau blaenllaw'r adran fynd yn gwbl ddigidol am y tro cyntaf.

Dŵr, disgyrchiant a phlu brain: Gwyddoniaeth yn yr ardd yn ystod gofid y Covid

22 Mai 2020

Beth sydd gan ddŵr yn llifo o bibell i’w wneud gyda theithio i’r gofod, a phlu brain i’w wneud gyda datgloi cyfrinachau feirysau fel Covid-19?