Dŵr, disgyrchiant a phlu brain: Gwyddoniaeth yn yr ardd yn ystod gofid y Covid
Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol
22 Mai 2020
Beth sydd gan ddŵr yn llifo o bibell i’w wneud gyda theithio i’r gofod, a phlu brain i’w wneud gyda datgloi cyfrinachau feirysau fel Covid-19?
Dyma ddau o’r cwestiynau sydd yn cael eu trafod mewn cyfres o arbrofion gwyddonol fel rhan o Gwener Gwyddonol Eisteddfod Amgen yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ffrwyth gwaith yr Athro Andy Evans, Pennaeth Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yw’r arbrofion, sydd wedi eu ffilmio yng ngardd gefn ei gartref yn Llandre, ger Aberystwyth, ers dechrau’r cloi mawr.
Mae’r Athro Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, yn arbenigwr ar ddefnyddiau megis diamwntiau, graffîn a thechnoleg nano, elfenau sydd yn cael eu defnyddio mewn technoleg cwantwm, ffotoneg a chelloedd solar.
Mae ei arbrawf cyntaf, Dwysedd Dŵr, sy’n cynnwys arddangosiad ac darlith fer ar y wyddoniaeth, eisoes ar lein, a bydd arbrawf newydd yn cael ei ychwanegu bod bore Gwener am 11 o’r gloch, a hynny tan wythnos draddodiadol y Brifwyl.
Ymhlith y cysyniadau gwyddonol a fydd yn cael eu hesbonio bydd sut mae mesur a chadw amser gan ddefnyddio pendil cloc; disgyrchiant a theithio’r gofod gyda help pibell ddŵr; sut mae rhewlifoedd yn dadlaith ar effaith ar lefel dŵr y môr.
Bydd hefyd edrych ar blu brain i ddeall diffreithiant, cysyniad sy’n ein galluogi i ddarganfod strwythurau defnyddiau ar lefel atomau unigol, ac sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn astudio strwythur feirws Covid-19.
Yn ôl yr Athro Evans, mae modd ail-greu nifer o’r arbrofion hyn gan ddefnyddio pethau cyffredin a geir ym mhob cartref, yn y “dror pob dim”.
“Mae’r gweithgareddau sydd fel arfer yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant a phobl o bob oed i arbrofi drwy chwarae ac i ddarganfod y byd o’u cwmpas.
“I wyddonwyr, mae’n bwysig iawn ein bod yn rhannu’n gwaith ymchwil a’n brwdfrydedd, ac mae’n hyfryd gallu gwneud hynny drwy gyfrwng arbrofion syml, hyd yn oedd yn yr ardd. Rwy’n gobeithio’n fawr fod rhywbeth yma at ddant pawb ac y byddant yn help i ni ddysgu am y wyddoniaeth sylfaenol sydd tu ôl i’r darganfyddiadau a’r datblygiadau ddiweddaraf mewn sawl maes, boed hynny’n deithio i’r gofod neu ddeall y defnyddiau diweddaraf sydd yn trawsnewid y byd a’n bywydau bob dydd, a hyn yn oed ychydig am sut y mae gwyddonwyr yn mynd ati i ddeall strwythur feirws Covid-19.”
Ymunwch â’r Athro Andy Evans, a’r brain sydd yn gyfeiliant cyson iddo, ar gyfer Gwener Gwyddonol bod bore Gwener am 11, a gwyddoniaeth yn yr ardd.