Ymchwil i heddlua grwpiau bregus diolch i ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg
11 Mai 2020
Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill ysgoloriaeth i gynnal ymchwil ar heddlua pobl fregus.
Bydd Demi John, sy’n hanu o Benderyn yng Nghwm Cynon, yn gwneud ei hymchwil doethuriaeth gydag adran y gyfraith. Testun ei doethuriaeth ydy Heddlua Pobl sy’n Agored i Niwed yng Nghymru. Y llynedd, enillodd Demi, sydd yn fyfyrwraig trydedd blwyddyn ar hyn o bryd, y wobr am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yng ngwobrau Gŵyl Dewi'r Brifysgol.
Mi fydd hi’n cynnal yr ymchwil wrth i arbenigedd y Brifysgol ddatblygu yn y maes dan arweiniad pennaeth newydd adran y gyfraith, Yr Athro Emyr Lewis.
Dywedodd Demi John, a fynychodd Ysgol Rhydywaun yn Aberdâr cyn dod i astudio yn Aberystwyth:
“Mae’n deimlad arbennig i ennill yr ysgoloriaeth achos ei bod hi’n rhoi cyfle i mi fynd yn ôl i Aberystwyth i astudio pwnc rwy wir yn credu ynddo. Rwyf wedi ysgrifennu traethawd estynedig fel rhan o’m gradd gyntaf am yr heddlu a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud gyda phobl fregus. Mae ennill yr ysgoloriaeth yn golygu bod modd i mi ymchwilio’n bellach.
“Rwy’n gwirfoddoli fel cwnstabl yn lleol ac felly rwyf wedi bod mas a gweld beth sy’n digwydd ar lawr gwlad. O beth rwy’n ei weld, mae’r heddlu yn ei chael hi’n anodd delio â phobl fregus, megis y rheini gyda phroblemau iechyd meddwl. Ro’n i eisiau ymchwilio i sut mae’r gwaith yna’n effeithio ar yr heddlu. Drwy fy ngwaith ymchwil, rwy’n gobeithio gallu codi ymwybyddiaeth ymhlith asiantaethau eraill o’r materion hyn.”
Yn ogystal â doethuriaeth troseddeg Demi John, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill dwy ysgoloriaeth arall o’r Coleg Cymraeg, un ar y cyd rhwng yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Ysgol Fusnes a’r llall mewn Milfeddygaeth. Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn cael eu hysbysebu maes o law.
Ychwanegodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “
“Hoffem longyfarch Demi ar ei llwyddiant, mae’n destun balchder bod myfyrwraig mor ddisglair wedi dewis dilyn ei doethuriaeth yn Aberystwyth. Mae’r ysgoloriaeth troseddeg yn adeiladu ar waith ymchwil pwysig iawn yr adran yng nghyd-destun llesiant unigolion a charfannau dan anfantais neu fygythiad fel rhan o’r prosiect Dewis. Yn sicr, mi fydd ei hymchwil yn ychwanegu at yr arbenigedd yn yr adran yn ystyried y cwestiynau hollbwysig hyn. Mae hyrwyddo ymchwil o safon yn holl bwysig i ni fel sefydliad ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf a ddyfarnodd bod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny.
“Yn fwy cyffredinol, mae’r tair doethuriaeth ychwanegol a ddaw yn sgil dyfarniad y Coleg Cymraeg yn creu darpariaeth newydd perthnasol i Gymru a’r Gymraeg ar draws ystod eang o feysydd allweddol. Mae’n arwydd o ymroddiad y Brifysgol i ddarparu meysydd newydd trwy gyfrwng y Gymraeg sy’n nod strategol i ni. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg ar draws ein rhaglenni gradd ac ôl-radd er mwyn hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth i ddatblygiad ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn berthnasol i anghenion ac agenda’r Gymru gyfoes.”