Covid-19: canllaw ynghylch gofid a gorbryder yn Gymraeg

18 Mai 2020

Mae canllaw ymarferol ar-lein ynghylch byw gyda gofid a gorbryder yn ystod pandemig Covid-19 bellach ar gael yn Gymraeg, diolch i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r canllaw, Byw gyda Gofid a Gorbryder mewn Cyfnod o Ansicrwydd Byd-eang, yn cynnwys gwybodaeth addysgiadol ynghyd ag ymarferion hunangymorth a thechnegau y gellid eu defnyddio i gynnal lles ac i reoli gorbryder.

Cyhoeddwyd y canllaw yn Saesneg ar wefan Psychology Tools gan Dr Hardeep Kaur a Dr Matthew Whalley ac mae’n cael ei ddefnyddio gan staff GIG Hywel Dda. Synnwyd yr awduron gan yr ymateb byd-eang i’w gwaith, wrth i ddarllenwyr gysylltu â hwy i gynnig ei gyfieithu i’w hieithoedd eu hunain. Mae’r canllaw eisoes ar gael mewn sawl iaith, o Afrikaans i Tseinïeg.

Diolch i ddoniau cyfieithu myfyrwyr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a chysylltiadau meddwl.org, mae’r canllaw hwn bellach ar gael yn y Gymraeg yn rhad ac am ddim ar wefan psychologytools.com.

Wrth esbonio’r broses, dywedodd Manon Elin James, sy’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn un o sylfaenwyr meddwl.org:

“Mewn cyfnod o ofid a straen, mae medru derbyn cymorth a gwybodaeth yn eich iaith eich hun yn gysur. Mae’r canllaw yn cynnwys ymarferion hunangymorth, sydd yn brin iawn yn y Gymraeg, felly rydym yn falch o fedru cydweithio gyda Psychology Tools i sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr hwn ar gael yn Gymraeg.”

Dywedodd Dr Matthew Whalley, cyfarwyddwr Psychology Tools:

“Rydyn ni yn Psychology Tools yn credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn medru cael mynediad at adnoddau hunangymorth o ansawdd uchel yn eu hiaith eu hunain. Dyna pam ein bod yn hynod o falch bod gwirfoddolwyr o meddwl.org yn barod i gyfieithu ein canllaw ar fyw gyda gofid a gorbryder i’r Gymraeg. Gobeithiwn y caiff ei rannu’n eang ac y bydd llawer o bobl yn elwa ohono.”

Ychwanegodd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth: 

“Nid yw’n hawdd byw a gweithio dan glo, ac mae hi’n hollbwysig felly fod deunyddiau addas a safonol ar gael yn y Gymraeg er mwyn ein galluogi ni i wynebu heriau seicolegol ac ymarferol y pandemig. Rwy’n hynod falch o waith graenus a gofalus y cyfieithwyr, ac yn ddiolchgar iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr i geisio lleihau’r gofid ynghylch Covid-19. O gydweithio â meddwl.org gallwn fod yn hyderus fod terminoleg a chywair y canllaw yn gyson ac, yn sicr, mae’r cyfieithiad Cymraeg hwn yn ateg amserol iawn i waith ardderchog cymuned meddwl.org.”